Fel y bydd llawer ohonoch wedi cael gwybod, yn ddiweddar mae HEFCW, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cyhoeddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Prifysgolion Cymru gan Lywodraeth Cymru i helpu myfyrwyr sy'n profi unrhyw fath o anawsterau ariannol oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Dyrannwyd oddeutu £3.6miliwn o'r cyllid ychwanegol i Fangor.
Mae pob Prifysgol yng Nghymru wedi cytuno i ddyrannu’r cyllid yn yr un ffordd i sicrhau cysondeb, sydd wedi arwain at ychydig o oedi. Fodd bynnag, cytunwyd ar un ffordd o
weithredu ar gyfer yr holl sector sef gwneud taliad sefydlog o £350 i'r categorïau canlynol o fyfyrwyr (gyda dim ond un taliad i’r myfyrwyr hynny sydd mewn sawl categori).
Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu iddynt:
- Incwm teulu
- Anabledd
- Myfyrwyr sydd wedi gadael gofal / wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd
- Bod yr aelod cyntaf o'r teulu i fynd i’r brifysgol
Bydd y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr cymwys yn unigol yn ystod y pythefnos nesaf gyda manylion pellach.
Yn y cyfamser, gall pob myfyriwr gysylltu o hyd â cymorthariannol@bangor.ac.uk os ydyn nhw mewn anawsterau ariannol. Bydd angen asesu pob myfyriwr a bydd cefnogaeth ariannol ar gael yn seiliedig ar amgylchiadau unigol.