Amdanaf i
Helo, Mya ydw i, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli! Rydw i wedi bod yn astudio Eigioneg Ffisegol dros y tair blynedd diwethaf. Rwyf wedi bod ar bwyllgorau i glybiau a chymdeithasau ym Mangor ac wedi bod yn arweinydd y rhwydwaith cynaliadwyedd. Yn fy amser hamdden, rwyโn hoff o sgwennu, gwneud gwaith crosio, a gwneud y mwyaf o fod mor agos at Eryri (trwy ddigonedd o fynydda ac adara).
Dyma rai oโm blaenoriaethau ar gyfer eleni:
โข Symleiddio gwaith gweinyddol y grwpiau myfyrwyr.
โข Gwella gwefan Undeb y Myfyrwyr
โข Gweithio i lunio mwy o hysbysebion ar gyfer digwyddiadau codi arian a digwyddiadauโr grwpiau myfyrwyr.
โข Gwella cefnogaeth iechyd meddwl i fyfyrwyr.
โข Cynnal ymgyrchoedd yn ymwneud รข chynaliadwyedd.
โข Helpu i rwystro aflonyddu rhywiol a chyflwyno addysg orfodol ar gydsyniad rhywiol.
Rwyf am weithio i sicrhau bod pawb yn cael profiad prifysgol mor wych รข phosibl, ac mae gan grwpiau myfyrwyr ran hollbwysig yn hynny. Rydw i wrth fy modd รขโr cyfle i gefnogi cymdeithasau a grwpiau gwirfoddoli a'ch helpu chi i gyflawni pethau anhygoel!