O fewn rôl yr IL Chwaraeon, mae goruchwylio ein 63 o glybiau, yr Undeb Athletau, a hyrwyddo byw'n
iach yn ffactor bwysig ym mhrofiad prifysgol llawer o fyfyrwyr. Fel cynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer
chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor, mae fy mhenderfyniadau yn seiliedig ar fudd gorau'r myfyrwyr,
tra hefyd yn creu cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr.
Rhedais am y rôl gan fy mod wedi ymgysylltu’n fawr â’r Undeb Athletau yn ystod fy nghyfnod fel
myfyriwr, ac rwy’n ymwneud yn fawr â chwaraeon yn gyffredinol. Felly pan gododd y cyfle i gael
effaith gadarnhaol ar eraill sut y cefais i fy effeithio, wnes i ddim meddwl ddwywaith. Gwelais hefyd
lawer o botensial ar gyfer gwella, yn amrywio o ran yr ochr berfformio, megis anelu at gael 6
hyfforddwr allanol, i’r agwedd cyfranogiad, megis creu menter anghystadleuol i fenywod gymryd
rhan ynddi.
Daeth uchafbwynt fy nghyflawniad wrth i mi baratoi i ail-redeg ar gyfer y rôl. Yn aml nid ydych yn
cael cyfle i edrych yn ôl, ond wrth baratoi fy holl ddeunydd ar gyfer yr ail-etholiad, edrychais ar fy
maniffesto blaenorol, a thynnu sylw at bopeth a gwblhawyd gennyf mewn melyn, a phopeth na
wnes i ei gwblhau mewn gwyn. Pan oedd y dudalen wedi'i gorchuddio'n llawn â melyn, dyma'r tro
cyntaf i mi sylweddoli fy mod wedi llwyddo i gyflawni'r hyn a addawyd gennyf. Mae rhai
cyflawniadau'n cynnwys newid cyflenwr cit, cyflogi hyfforddwyr allanol, gweld y clybiau'n llwyddo, ac
wrth gwrs, ennill Varsity.
Mae llawer o heriau wedi digwydd yn ystod fy amser, ond y dasg anoddaf bob amser yw dosbarthiad
teg. Rwyf am wneud yn siŵr bod pob clwb yn cael yr un faint o gydnabyddiaeth a chyfle, ond mae
hyn yn anodd gyda 63 o glybiau. Felly, pan ddaw syniadau da i'r amlwg neu pan fydd angen
dosbarthu arian, sut mae gwneud hyn yn effeithlon? Rhwystr arall yw pryd bynnag y bydd newid, nid
oes neb yn hoffi newid, hyd yn oed pan fydd hynny er budd myfyrwyr. Yr her fwyaf yw cael
cefnogaeth a chymeradwyaeth gan y rhai yr ydych i fod yn eu cynrychioli.
Digwyddiadau yw'r peth gorau am y rôl, dwi’n gallu cael mewnbwn i redeg digwyddiadau fel Varsity,
Cinio'r UA, Twrnameintiau'r UA, Serendipity 1 a 2. Rwyf wedi cymryd pob cyfle i wneud unrhyw
ddigwyddiad posibl yn ddigwyddiad mawr, fel Rownd Derfynol Cwpan BUCS Undeb Rygbi'r Merched
a gynhaliwyd yn Nhreborth, a chynnal ymgyrch Wythnos Byw'n Iach, i annog a hyrwyddo byw'n iach
trwy ddiet, ymarfer corff a threfn arferol, i unigolion sydd ddim mor egnïol yn gorfforol ag eraill.
Y gwersi rydw i wedi eu dysgu yn ystod fy amser yn y swydd yw gwrando ar adborth. Ar sawl
achlysur, mae gen i, yr hyn rwy’n meddwl, sy’n syniad a gall fod o fudd i eraill, ond yn y cynllun
hirdymor nid yw mor boblogaidd â hynny. Rhywbeth rydw i wedi dechrau ei wneud yn Semester 2,
yw ffurflenni adborth, lle rydw i'n casglu ymatebion ar rai pethau ac yn cael 30+ o syniadau ac
adborth, sy'n rhoi mwy o wybodaeth i mi na fy adborth i fy hun yn unig. Enghraifft o hyn yw'r camera
VEO. Fe brynon ni gamera VEO ar ddechrau'r flwyddyn i dreialu recordio gemau ar gyfer ein clybiau
chwaraeon. Ni welsom gymaint o ddefnydd ohono ag yr oeddwn yn ei ddisgwyl, felly fe wnaethom
greu ffurflen adborth, a darganfod y rhesymeg pam nad yw clybiau’n ei ddefnyddio cymaint, ac
rydym wedi medru cywiro ac addasu ers hynny. Mae hyn wedi dysgu ffordd effeithlon i mi o wella
unrhyw beth bach yn seiliedig ar adborth.
Gan y byddaf yn parhau yn y rôl, mae gennyf gyfle i wella chwaraeon ym Mangor hyd yn oed
ymhellach. Rwy’n bwriadu ehangu nifer yr hyfforddwyr sydd gennym, defnyddio ein Hysgol
Gwyddorau Ymddygiad Dynol (Gwyddor Chwaraeon) a’u myfyrwyr er budd clybiau, a gwneud
chwaraeon yn fwy hygyrch i bawb i’w gwylio neu gymryd rhan.