John Slater

Ymddiriedolwr Allanol

Rwy'n byw ym Mwrdeistref Greenwich yn Llundain gyda fy mhartner Sandra. Mae'r fwrdeistref yn amlddiwylliannol ac yn amlieithog ac rydym yn weithgar yn y gymuned.

Mae gen i ddwy ferch, un ohonynt yn gweithio ac yn dilyn prentisiaeth gradd. Mae fy merch arall newydd ddechrau ar ei blwyddyn olaf yn y London College of Fashion (University of the Arts London) yn astudio at radd mewn Marchnata Ffasiwn.

Mae fy ngyrfa yn un sydd wedi bod ynghlwm ag addysg drwyddi draw. Treuliais 16 mis yn gweithio i ddau gorff llywodraeth sy'n gysylltiedig ag ysgolion yng nghanol yr 1980au ond mae'r rhan fwyaf o fy mhrofiad wedi bod mewn addysg uwch. Rydw i bob amser wedi bod yn ymroddedig i gydraddoldeb ac ehangu cyfranogiad.

Sgiliau

Gallaf gynnig ystod o sgiliau a fyddai o fudd rwy'n gobeithio. Mae gen i brofiad o drafodaethau a negodi ar lefelau strategol mewn sefydliadau a gallaf gynnig sgiliau arwain strategol yn seiliedig ar yr amrywiaeth o gyneddfau rwyf wedi'u datblygu mewn dwy brifysgol wahanol.

Gallaf gynnig eglurder gweledigaeth i chi mewn perthynas รข'r tasgau rwyf yn ymwneud รข hwy yn ogystal ag arbenigedd mewn rheolaeth ariannol dros nifer fawr o flynyddoedd. Mae gen i wybodaeth am Gynllunio; Rheoli Rhanddeiliaid; Rheoli Risg a dadansoddi data ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Rwyf wedi treulio cyfnodau sylweddol oโ€™m hamser yn rheoli newid. Rwy'n gyfathrebwr cryf ac mae gen i brofiad mewn datrys gwrthdaro a meithrin cysylltiadau cydweithredol cryf. Rwyf yn ymroddedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac i ymddygiad moesegol, gonestrwydd, meddwl yn annibynnol a barn gadarn.

Credaf fod fy ngwerthoedd fy hun yn gwedduโ€™n berffaith รข gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr. Credaf y gallwn gyfrannu rhywbeth at strategaeth, cyllido polisi a gweithrediad Undeb y Myfyrwyr.

Mae gen i lawer o brofiad yn ymwneud รข staffio a gosod amcanion strategol yn ogystal รข rheolaeth ariannol a materion cyfreithiol cysylltiedig ag addysg uwch.