Geraint Pugh

 

 

Ymddiriedolwr Allanol

Yn wreiddiol o Lambed, graddiodd Geraint o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd BA mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Arhosodd yn Aberystwyth i astudio ar gyfer MScEcon mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, cyn cael gwaith ym myd gwleidyddiaeth.

Rhwng 2006 a dechrau 2013, Geraint oedd Rheolwr Ymchwil a Chyfathrebu i Aelod Senedd Ceredigion, Elin Jones AS.

Ym mis Chwefror 2013, penodwyd Geraint yn Ysgrifennydd Prifysgol cyntaf Prifysgol Aberystwyth. Yn y rôl honno, roedd yn gyfrifol am sicrhau bod prosesau llywodraethu priodol yn eu lle o fewn y sefydliad, a bu’n gweithio’n agos gyda Chadeirydd y corff llywodraethu a’r Is-Ganghellor.

Ar ôl wyth mlynedd bleserus ym Mhrifysgol Aberystwyth, ymunodd Geraint ag S4C fel Ysgrifennydd y Bwrdd ym mis Hydref 2021. Yn y rôl honno, mae’n gyfrifol am gynghori Bwrdd Unedol S4C i sicrhau llywodraethu priodol ac effeithiol ar draws holl waith S4C.

Yn dad i ddau o blant, mae Geraint wedi bod yn Drysorydd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gymraeg Aberystwyth ers Medi 2018. Mae hefyd yn Ymddiriedolwr HAHAV (Hospis yn y Cartref Aberystwyth a’r Cylch).

Er nad yw Geraint yn raddedig o Brifysgol Bangor, mae’n falch iawn o fod yn gweithio gydag Undeb Bangor i gefnogi’r gymuned myfyrwyr.