Apeliadau Academaidd
Apêl a wneir yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholwyr neu gais dilynol i adolygu canlyniad apêl flaenorol yw Apêl Academaidd.
Ni ellwch gwestiynu barn academaidd darlithydd neu arholwr. Mae hyn yn golygu na allwch gwestiynu marc a roddwyd am waith cwrs dim ond ar y sail eich bod yn credu bod eich marc yn rhy isel, ond gallwch apelio yn erbyn y marc os credwch y bu gwall wrth gyfrifo'r marc, nam neu afreoleidd-dra yn y modd y cawsoch eich asesu neu mewn unrhyw gyfarwyddiadau neu gyngor ysgrifenedig yn ymwneud â'r asesiadau.
Gallwch gyflwyno apêl academaidd os oes gennych amgylchiadau arbennig a allai fod wedi cael effaith negyddol ar eich perfformiad academaidd. Serch hynny, os na adroddwyd am yr amgylchiadau arbennig i'r Bwrdd Arholi cyn iddo gyfarfod, bydd angen i chi esbonio'n llawn pam na ddatgelwyd yr amgylchiadau ar y pryd er mwyn galluogi penderfyniad ynghylch a fyddant yn cael eu derbyn yn hwyr.
Rhaid cyflwyno Apeliadau Academaidd yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen A isod ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich apêl.
Er mwyn i'r brifysgol ystyried eich apêl, dilynwch y canllawiau hyn:
Mae angen gwybodaeth arnom:
- Gallwch gyflwyno apêl ar ôl i chi dderbyn y penderfyniad cychwynnol gan y Bwrdd Arholi. Darllenwch adran Apêl y Drefn Apeliadau Academaidd cyn cyflwyno'r ffurflen hon. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau o leiaf un o'r adrannau wrth ddilyn y canllawiau ar y ffurflen ac, os yn bosibl, cyflwynwch unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer eich apêl. Rhaid i Apêl gael ei gyflwyno o fewn 15 diwrnod i'r dyddiad y mae myfyriwr yn derbyn penderfyniad Bwrdd Arholi. I gyflwyno apêl bydd angen i chi gwblhau'r Ffurflen Apêl (A). Byddwch yn derbyn ymateb i'ch Apêl gan yr Ysgol a fydd yn defnyddio Ffurflen B. Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb, gallwch ofyn am Adolygiad gan Ddirprwy Is-ganghellor.
Er mwyn gwneud cais am adolygiad:
-Dim ond ar ôl i'r cam apêl gael ei gwblhau y gallwch gyflwyno cais am adolygiad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau o leiaf un o'r adrannau gan ddilyn y canllawiau ar y ffurflen ac, os yn bosibl, cyflwynwch unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer eich cais.
Rhaid cyflwyno ceisiadau am adolygiad o fewn 10 diwrnod i’r dyddiad y mae'r myfyriwr yn derbyn canlyniad apêl.
Bydd yn rhaid i chi lenwi'r Ffurflen Adolygu (C).
Eich hysbysu am ganlyniad
-Byddwch yn derbyn ymateb unwaith y bydd eich cais wedi cael ei ystyried.
Sut gall Undeb y Myfyrwyr helpu?
• Eich cynghori ar y Drefn Apeliadau Academaidd
• Eich cynorthwyo i lenwi'r ffurflenni
• Eich cynorthwyo i gasglu tystiolaeth
• Anfon y ffurflenni a'r dystiolaeth ymlaen at yr aelodau staff priodol
• Bod yn bwynt cyswllt cyntaf rhyngoch chi a'r brifysgol