Newidiadau arfaethedig i'r brifysgol - ein hymateb

Yn dilyn cyhoeddi’r Achosion Busnes dros Newid ar 14 Mai 2025, ac ar ôl misoedd o alw am gyfarfod i’r holl fyfyrwyr, a gynhaliwyd o’r diwedd ddydd Llun, 2 Mehefin, rydym yn falch bod myfyrwyr o’r diwedd wedi cael y cyfle i rannu eu pryderon. Fodd bynnag, rydym yn siomedig gan ba mor hwyr y trefnwyd y cyfarfod a’r diffyg hyrwyddo effeithiol. Mae Undeb Bangor bellach wedi cwblhau casglu eich adborth drwy grwpiau ffocws, deisebau, sesiynau galw heibio, e-byst, a sgyrsiau wyneb yn wyneb. Mae’r ymateb isod, a fydd yn cael ei gyflwyno heddiw (11/06/2025), yn adlewyrchu llais chi y myfyrwyr, eich adborth i’r Brifysgol a’r safiad mae eich undeb yn ei gymryd yn erbyn y toriadau arfaethedig.

*Oherwydd yr amserlen fer, mae ein hymateb ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Bydd fersiwn Gymraeg ar gael yn fuan.

Darllenwch ein hymateb isod neu gallwch wylio crynodeb ohonom yn eich tywys trwy'ch dogfen ymateb YMA.

Ein Hymateb: