Datganiad Hygyrchedd Gwefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor)

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â gwefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) o dan yr enw parth: undebbangor.com

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Undeb Bangor a'i gwesteia gan OneVoice Digital.

Nodwch fod hon yn ddogfen weithio a fydd yn cael ei diweddaru yn ôl yr angen.

Defnyddio'r Wefan

Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • Chwyddo hyd at 500% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • Gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Defnyddio rhaglen ReciteMe i ddarparu amrywiaeth o offer mynediad

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch hyd yma.

Mae'n bosib na fydd rhai dogfennau PDF a Microsoft Word hŷn yn hygyrch gyda meddalwedd darllenwyr sgrin. Bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch i ddarllen ffeiliau PDF, a gellir ei lawrlwytho am ddim o wefan Adobe

  • Nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw
  • Nid yw rhai delweddau'n newid maint yn awtomatig ar gyfer gwahanol feintiau sgrin
  • Nid oes capsiynau ar rai o'n fideos mewnblanedig
  • Gall rhai o'n fideos mewnblanedig gynnwys enghreifftiau o liwiau cyferbyniol sy'n anodd eu darllen i bobl â rhai cyflyrau penodol
  • Mae cyfyngiad ar ba mor fawr y gallwch chwyddo mapiau ar rai tudalennau
  • Mae'n bosib na fydd gan rai delweddau destun amgen
  • Nid yw rhai tudalennau ar ein gwefan wedi'u hoptimeiddio'n llawn ar gyfer dyfeisiau symudol


Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan mewn fformat gwahanol, cysylltwch ag: undeb@undebbangor.com

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch ag: undeb@unddebbangor.com Caniatewch hyd at bum diwrnod gwaith i aelod o'n tîm ymateb i chi.

Gweithdrefnau Gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, yn sgil y diffyg cydymffurfio a nodir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

  • Nid yw rhai o'r cysylltiadau ar y wefan wedi'u labelu'n gywir neu mae hanner olaf y cysylltiadau'n rhy eang i fod yn ystyrlon. O'i gymryd allan o’i gyd-destun, efallai na fydd diben y cyswllt yn gwbl ddealladwy. Byddwn yn cywiro testun cysylltiadau dros amser wrth i ni adolygu pob tudalen.
  • Mae rhai o'n ffurflenni'n cael eu paratoi a'u gweseia trwy feddalwedd trydydd parti a'u haddasu i edrych fel ein gwefan.
  • Nid oes gan rai dyfeisiau rhyngweithiol ar y wefan dagiau a labeli disgrifiadol. Mae hynny'n golygu nad yw rhai o'n dyfeisiau rhyngweithiol, fel carwseli, yn hysbysu defnyddwyr darllenwyr sgrin o gyflwr cyfredol y ddyfais. Byddwn yn cywiro elfennau a dyfeisiau rhyngweithiol dros amser wrth i ni adolygu pob tudalen.

Baich anghymesur

Mae'r adran hon yn ymdrin â materion na allwn eu trwsio ar hyn o bryd. Rydym wedi asesu cost trwsio'r materion hyn ond credwn y byddai gwneud hynny yn faich anghymesur yn yr ystyr gyfreithiol.

Capsiynau

Efallai na fydd capsiynau’n ymddangos yn ddiofyn ar beth o'r cynnwys a recordiwyd. Rydym yn cynhyrchu capsiynau wedi'u golygu'n llawn ar gais i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarperir. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod pob recordiad newydd yn cael ei gefnogi â chapsiynau i gwrdd â safonau hygyrchedd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Mae'r adran hon yn ymdrin â materion nad oes angen i ni eu trwsio ar hyn o bryd. Cyfeirir yn gyfreithiol atynt fel eithriadau.

Mapiau

Mae ein gwefan yn defnyddio mapiau ar-lein. Gyda mapiau, darperir y wybodaeth a arddangosir mewn fformat amgen ar yr un dudalen we.

Cynnwys trydydd parti

Mae cynnwys trydydd parti yn ymddangos ar ein gwefan. Nid oes gennym reolaeth dros hygyrchedd y cynnwys hwnnw ac nid ydym yn gyfrifol amdano, ond rydym yn gwneud pob ymdrech i weithio gyda'r trydydd parti i wella ei hygyrchedd. Gall hynny gynnwys:

  • Cysylltiadau i wefannau nad ydynt yn rhai Undeb Bangor na Phrifysgol Bangor
  • Cynnwys/nodweddion ar ein gwefan
  • Cynnwys sydd wedi'i westeia ar wefannau eraill, megis gwefannau cyfryngau cymdeithasol

Er mwyn helpu i gydymffurfio â hygyrchedd ar draws y sector, gall defnyddwyr gyfeirio at search BOX, cyfeirlyfr canolog, annibynnol o wybodaeth am hygyrchedd trydydd parti.

Mae searchBOX yn catalogio gwybodaeth gyswllt a datganiadau hygyrchedd cyflenwyr trydydd parti, yn galluogi rhannu datganiadau hygyrchedd a gynhyrchir gan y gymuned, ac yn caniatáu i ddefnyddwyr fapio ecosystem eu cyflenwyr.

Gall defnyddwyr gael mynediad at ddatganiadau hygyrchedd trydydd parti trwy ddefnyddio'r gwasanaeth searchBOX Finder rhad ac am ddim.

Rydym yn annog ein holl bartneriaid a chyflenwyr i gefnogi'r ymdrech hon trwy sicrhau bod eu gwybodaeth hygyrchedd yn cael ei chynnwys yn y cyfeiriadur searchBOX.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i'n holl aelodau trwy weithredu prosesau mewnol sy’n ein tywys i ddarparu cynnwys perthnasol a hygyrch. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n darparwr gwefan (OneVoice) i sicrhau bod gennym yr offer i wneud newidiadau priodol i'r wefan a'i gwneud yn haws i’w defnyddio ac yn brofiad pleserus i'r defnyddiwr.

  • Sicrhau bod delweddau ar draws y wefan yn cael eu cefnogi gyda thestun amgen lle na fydd delweddau'n cael eu harddangos ar rai dyfeisiau neu'n anhygyrch i rai defnyddwyr
  • Sicrhau bod y wefan wedi'i hoptimeiddio'n llawn ar gyfer dyfeisiau symudol
  • Bod fformat a threfn y testun yn gyson ar draws yr holl dudalennau gwe
  • Ychwanegu capsiynau at gynnwys fideo wedi'i recordio

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 02/02/2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 02/02/2021.

Byddwn yn parhau i gynnal profion ar y wefan wrth i ni weithio tuag at wneud y wefan yn gwbl hygyrch. Byddwn yn blaenoriaethu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r materion hynny sy'n cael yr effaith fwyaf ar ddefnyddwyr. Unwaith y bydd y materion sy'n weddill wedi cael eu datrys, byddwn yn gweithredu cyfres o wiriadau treigl i sicrhau bod y wefan yn parhau i fod yn hygyrch at safon uchel fel y diffinnir yn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1.