Cynllun Tlodi ac Urddas Mislif

Mae ein cynllun yn rhan o fenter ehangach, a luniwyd gan Gyngor Addysg Uwch Cymru (HEFCW), sy'n cydnabod pwysigrwydd sicrhau urddas mislif ar gyfer lles ac iechyd myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl a phrofiad myfyrwyr. Rydym am sicrhau urddas mislif i bawb sy'n cael mislif ym Mhrifysgol Bangor a sicrhau nad yw profiad academaidd a phrifysgol cyffredinol myfyrwyr yn cael ei gyfaddawdu gan ddiffyg mynediad at gynhyrchion neu gefnogaeth yn ymwneud â'r mislif.

 

 

Beth mae urddas mislif yn ei olygu?

Mae Binti International (2020), yn diffinio urddas mislif fel a ganlyn: sicrhau bod gan bob myfyriwr sy'n cael mislif fynediad at addysg am y mislif, at y cynhyrchion sydd eu hangen arnynt i reoli eu mislif a rhyddid rhag y stigma a thabŵ a gysylltir â'r mislif.

I ddysgu mwy am dlodi mislif, beth mae’n ei olygu a sut y gallwn helpu, darllenwch y canllaw canlynol a luniwyd gan y brand padiau mislif organig Yoppie: 

https://yoppie.com/period-poverty

Beth mae tlodi mislif yn ei olygu? 

Yn gryno, mae tlodi mislif yn cyfeirio at ddiffyg mynediad at gynhyrchion mislif oherwydd cyfyngiadau ariannol. Gall hynny fod yn sgil amrywiaeth eang o ddigwyddiadau bywyd sy'n cael effaith negyddol ar allu unigolyn i gael gafael ar gynhyrchion mislif i reoli digwyddiad o natur bersonol a rheolaidd yn eu bywydau. Yn fwy cyffredinol, gellir hefyd ei ddiffinio fel diffyg mynediad i doiledau, cyfleusterau golchi dwylo, rheoli gwastraff hylan ac addysg am y mislif.

Nodau'r cynllun hwn 

Nid  moethusrwydd yw cael cynhyrchion mislif ond anghenraid. Dyna pam mai prif nod y cynllun hwn yw sicrhau mynediad am ddim i fyfyrwyr at gynhyrchion mislif. 

Yn ail i hynny, mae gennym 3 nod cenhadaeth yr ydym yn gobeithio eu gwireddu trwy ein hymgyrch a'n digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym eisiau YSBRYDOLI, ADDYSGU A GRYMUSO myfyrwyr ynghylch pob agwedd ar y mislif fel rhan o'n siwrnai at gyflawni urddas mislif i bawb sy'n cael mislif ym Mhrifysgol Bangor.

Beth mae'r nodau cenhadaeth hyn yn eu golygu a sut y byddwn yn eu cyflawni? 

YSBRYDOLI. Rydym am ysbrydoli myfyrwyr i fabwysiadu arferion mislif sy'n fwy cyfeillgar i'r blaned trwy ein Hymgyrch Amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys annog myfyrwyr i roi cynnig ar gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu archebu o'n hamrediad o gynhyrchion defnydd sengl sydd yn 100% rhydd o blastig ac sydd ar gael trwy ein cyflenwr i'r cartref Hey Girls.

ADDYSG. Rydym am addysgu myfyrwyr am dlodi mislif, y cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â'r mislif neu sy'n effeithio ar brofiad pobl ohono, sut i ddefnyddio cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio a sut i gael gwared ar gynhyrchion untro yn gywir. Trwy wneud hynny, rydym yn gobeithio cyrraedd nid yn unig yr holl fyfyrwyr hynny sy'n cael mislif ond pawb arall hefyd. Credwn y bydd hyn yn helpu i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â thrafod y  mislif a thlodi mislif.

GRYMUSO. Rydym eisiau grymuso myfyrwyr trwy agor deialog a normaleiddio ymgom am fislif a thlodi mislif. Bob dydd Llun, byddwn yn rhannu profiadau mislif myfyrwyr ar Instagram Undeb Bangor fel rhan o'n Menstruation Monday Quote cyfres. Gobeithiwn y bydd hyn, ynghyd â'r addysg a ddarperir, yn grymuso pawb sy'n cael mislif ac yn caniatáu i fyfyrwyr ddathlu’r gwahaniaethau yn eu profiad o gael y mislif.

Cymerwch olwg ar Instagram a thudalen Facebook Undeb Bangor i ddilyn ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Ewch draw i'r dudalen Digwyddiadau i gymryd rhan.

Beth sy'n bwysig i'r cynllun? 

Cynwysoldeb 

Dan Arweiniad Myfyrwyr 

Amgylcheddol  

 

Cyswllt 

Os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych syniadau am sut y gallem wella'r cynllun, cysylltwch â Swyddog y Project, Josie Ball: josie.ball@undebbangor.com