Hyrwyddo ar y Campws

                                                             

Wedi'ch dal yn fyr? Rydym yma i’ch helpu! Mae cynhyrchion mislif bellach ar gael mewn nifer o doiledau benywaidd, gwrywaidd, niwtral o ran rhywedd, a hygyrch ar draws y campws Bangor a Wrecsam yn ogystal â'r ddwy Swyddfa Neuadd â'r siopau ar gampws Bangor. Cliciwch ar y gwymplen i ddysgu mwy...

Ble alla i ddod o hyd i'r cynhyrchion?

                                                             

                                                             

                                                             
Rydym eisiau annog myfyrwyr i allu cael gafael ar gynhyrchion yn hyderus, gan leihau'r stigma cysylltiedig. Felly mae’r cynhyrchion wedi’u gosod ar arwynebau yn y toiledau, yn aml yn agos at y sinc.

Mae hyn yn berthnasol i doiledau gwrywaidd, benywaidd a niwtral o ran rhywedd. Mae unedau dosbarthu wedi'u gosod ar y wal mewn toiledau hygyrch. 

Dyma fanylion y toiledau lle gallwch ddod o hyd i gynhyrchion, fesul adeilad:

Pa gynnyrch sydd ar gael?

Gwnaethom ddewis yr unedau dosbarthu sydd wedi’u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu gan TOTM yn dilyn ymgynghori ag Iechyd a Diogelwch a Gwasanaethau’r Campws am yr unedau dosbarthu mwyaf priodol i'w defnyddio ar hyn o bryd, i ddiogelu iechyd a lles myfyrwyr.

Maent yn agored ac yn dryloyw, er mwyn i fyfyrwyr allu casglu cynhyrchion heb lawer o gyswllt â'r unedau dosbarthu eu hunain nac unrhyw gynnyrch arall sydd ynddynt.


Diogelwch eich hun a'r person sy’n eich dilyn; ceisiwch beidio â thwrio o gwmpas am gynhyrchion a naill ai golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylenydd cyn neu ar ôl cymryd eitem.

 

 

Unedau dosbarthu mewn toiledau gwrywaidd

Biniau glanweithdra mewn toiledau gwrywaidd

Sut mae rhoi gwybod am stoc isel neu unedau dosbarthu gwag?

Peiriannau dosbarthu Gwyddorau’r Eigion