Digwyddiadau

Digwyddiadau'r Dyfodol

Nid oes unrhyw digwyddiadau'r dyfodol. 

 

Digwyddiadau'r gorffennol

A Festive Period

                                                         

Tamponau a phadiau yn cynhyrchu 200,000 tunell o wastraff yn flynyddol. Dyma pam rydym yn cynnig padiau a chwpanau amlddefnydd am ddim yn ein pecynnau gofal y gaeaf hwn. Gofalwch ar ôl eich hun a’r blaned trwy ddewis cynnyrch.

Poeni am sut i’w defnyddio? Rydym yma i helpu! Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i ofyn cwestiynau a thrafod popeth i wneud a chynnyrch amlddefnydd a’r mislif.

Ymunwch â ni yn Undeb y Myfyrwyr (Pontio, 4ydd Llawr) ar ddydd Iau 9fed Rhagfyr 2021, 11yb- 4yh ar gyfer “Festive Period”. Gobeithio eich gweld chi gyd yno! 

 

Sesiwn Chwalu'r Chwedlau 1

Dydd Mercher, 17 Chwefror, 6yh.

Yn galw ar bawb sy'n cael mislif a phawb sydd ddim. Dewch i ddysgu!

Ymunwch â'n sesiwn chwalu’r chwedlau yn fyw ar Facebook i gael ateb i unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ynglŷn â'r mislif!  

Caiff y sesiwn hon ei threfnu a'i harwain gan Katie Tew, ein His-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli, ynghyd ag aelodau o'n Grŵp Llywio Myfyrwyr a'r Swyddogion Sabothol eraill. 

 

Sesiwn Holi ac Ateb Byw-Chwaraeon a'r Mislif 

Dydd Iau, 25 Chwefror, 6yh.

Ymunwch â ni ar dudalen Facebook Undeb Bangor am Sesiwn Holi byw gyda Hannah Hughes am y mislif a chwaraeon. Mae Hannah yn gweithio fel y Swyddog Ennyn Diddordeb mewn Rygbi yng Ngholeg Llandrillo. Mae hi'n chwaraewr rygbi brwd ac yn athletwr Judo sydd â phrofiad helaeth iawn o chwaraeon:

"Rhan o'm swydd i yw hyrwyddo'r budd i bawb o gadw'n heini a gwirfoddoli. Yn ddiweddar gwnaethom lansio Ymgyrch Urddas Mislif - Dim Rhwystr - gyda chefnogaeth athletwyr elît lleol yng Ngogledd Cymru a dysgwyr sy'n Hyrwyddwyr Cadw'n Heini er mwyn sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim i bob dysgwr benywaidd."

 

Sgwrs a'r Actifydd Amgylcheddol Ella Daish                                                                          

                                                         

Mewn partneriaeth â TOTM

9 Mawrth, 5yh ar Zoom

Ymunwch â ni am sgwrs lle bydd Ella yn rhannu ei stori a'i hymgyrch #EndPeriodPlastic, yn ein haddysgu am fislif di-blastig ac yn trafod urddas mislif.

Mae Ella Daish yn actifydd amgylcheddol ac yn sylfaenydd yr ymgyrch #EndPeriodPlastic. Mae ei hymgyrch dylanwadol wedi arwain at newidiadau mawr yn y diwydiant mislif. Mae wedi arwain i dri o brif fanwerthwyr y Deyrnas Unedig roi'r gorau i werthu cynhyrchion tampon plastig, ac wedi sbarduno eraill i ddatblygu cynnyrch cynaliadwy. Mae hi wedi dylanwadu ar gynhyrchwyr ac archfarchnadoedd i wneud newidiadau arwyddocaol ac ar gynghorau a llywodraethau i wario eu cyllid tlodi mislif ar gynhyrchion ecogyfeillgar.

Bydd Nancy o TOTM, a fydd yn cydweithio â ni i sicrhau ein cyflenwad o damponau â dodwyr i’r campws, yn cyflwyno ei hun a'r cwmni ar ddechrau'r digwyddiad. Dyma ychydig mwy o wybodaeth gefndir am TOTM:

Mae TOTM yma i roi ysgytwad i'r diwydiant gofal mislif a gwneud iddo newid cyfeiriad. Mae eu hystod o gynnyrch cotwm organig a chynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio yn cynnwys deunyddiau cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer mislif cysurus a chyfeillgar i'r blaned. Mae TOTM yn cymryd agwedd newydd at ofal mislif sy'n ymwneud ag ymwybyddiaeth, cyfleustra a dewis. Maent wedi ymroi i sicrhau bod eu hamrywiaeth mawr o gynnyrch, sydd wedi’i ardystio am fod yn foesegol a chynaliadwy, ar gael pan fydd ei angen arnoch fwyaf. Maent yn falch o fynd gam ymhellach na gwella sut y byddwn yn rheoli'r mislif. Mae TOTM yma i wneud gwahaniaeth - maen nhw am chwalu tabŵs a hyrwyddo achosion iechyd ac urddas mislif i rymuso merched.

Bydd sgwrs 30 munud gan Ella a Sesiwn Holi tua'r diwedd. Mae manylion y sgwrs fel a ganlyn:

-              Cyflwyniad gan Nancy o TOTM - trosolwg cyflym o TOTM a'u cynnyrch

-              Cyflwyniad gan Ella

-              Stori Ella, o weithiwr post i actifydd

-              Plastig a'r Mislif

-              Beth sydd wedi digwydd ers i'r ymgyrch ddechrau

-              Gwaith Ella gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol

-              Sut mae gan bob un ohonom y grym i greu newid

-              Sesiwn Holi

 

Sesiwn Chwalu'r Chwedlau 2 Sesiwn

Dydd Mercher, 24 Mawrth, 6yh.

Yn galw ar bawb sy'n cael mislif a phawb sydd ddim. Dewch i ddysgu!

Ymunwch â'n sesiwn chwalu’r chwedlau yn fyw ar Facebook i gael ateb i unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ynglŷn â'r mislif! Ydych chi'n colli'ch morwyndod drwy ddefnyddio tampon? Ydych chi'n rhoi'r gorau i waedu mewn dŵr? A yw Syndrom Cyn-fislifol yn beth go iawn? Dewch i ddarganfod! 

Caiff y sesiwn hon ei threfnu a'i harwain gan Katie Tew, ein His-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli, ynghyd ag aelodau o'n Grŵp Llywio Myfyrwyr a'r Swyddogion Sabothol eraill. 

 

Holi ac Ateb Dwyieithog Byw, gyda Thara Leanne Hall o Gylch Coch

                                                                                                                        

https://www.facebook.com/cylchcoch

Mae Chylch Coch yn prosiect sylfaenol sy’n gweithio tuag at chwalu tlodi a thabŵ mislif yng Ngogledd Cymru,

trwy rannu nwyddau gwybodaeth mislif.  

Ymunwch â ni ar 29 Mawrth am 6yh ar gyfer y Sesiwn Holi Saesneg, ac am 6.15yh ar gyfer y Sesiwn Holi Cymraeg, trwy dudalen Facebook Undeb Bangor! 

 

Pictionary Mislif Byw 

14th Ebrill, 6yh 

 

Sesiwn Cylchred Mislif gyda'r Nyrs Ymarfer Emily Stewart

                                                            

Ymunwch â ni ar 20 Ebrill am 6pm trwy Zoom ar gyfer Sesiwn Cylchred y Mislif gydag Emily Stewart o The Real Period Project!

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

•             Deall uchafbwyntiau ac isafbwyntiau emosiynol a chorfforol cylchred y mislif

•             Sut i weithio gyda'ch cylchred yn hytrach na’i fod yn gweithio yn eich erbyn

•             Sut, pam a phryd y bydd problemau â’r mislif yn cael eu trin â chyffuriau atal cenhedlu hormonaidd - manteision ac anfanteision

•             Sut mae stigma a chywilydd am y mislif yn effeithio ar bob un ohonom

I sicrhau eich lle, cofrestrwch trwy adran Ddigwyddiadau gwefan Undeb Bangor. Trwy wneud hynny, byddwch yn derbyn y cyswllt Zoom a'r cyfrinair i ymuno â'r sesiwn.

Mae cofrestru i’r digwyddiad ar sail y cyntaf i'r felin.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â'r digwyddiad, anfonwch e-bost at Josie Ball / josie.ball@undebbangor.com 

 

Gweithdy Mislif Amgylcheddol gyda Leah Bromley 

                                                          

5 Mai, 6yh âr Zoom 

Ymunwch â ni yn ein digwyddiad olaf wedi’i drefnu yn y flwyddyn academaidd hon!

Bydd Leah Bromley, Hyrwyddwr Amgylcheddol dros Women’s Environmental Network (WEN), yn cynnal Gweithdy Amgylcheddol a fydd yn cynnwys:

  • Effeithiau amgylcheddol ac iechyd rhai cynhyrchion defnydd sengl

  • Tlodi mislif ac actifyddiaeth yn y Deyrnas Unedig ac

  • Opsiynau o ran cynhyrchion mislif cynaliadwy, gan gynnwys dodwyr mislif newydd y gellir eu hailddefnyddio

 

“Gwneuthum ymchwil i brofiadau myfyrwyr gyda chynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer traethawd hir gradd Meistr yn 2019. Yn sgil hynny, cydweithiais â'r mudiad City to Sea ym Mryste, i rannu fy nghanfyddiadau a'u helpu i ddadansoddi eu harolwg eu hunain. Yna, trwy City to Sea deuthum ar draws cyfle i fod yn Hyrwyddwr Mislif Amgylcheddol gyda'r Women’s Environmental Network. Yn y swydd hon, rwy'n cynnal gweithdai i fyfyrwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth am gynhyrchion mislif cynaliadwy. Mae hyn yn rhan o broject WEN i rymuso pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am y cynhyrchion maent yn eu defnyddio ac i dynnu sylw at effeithiau amgylcheddol ac iechyd cynhyrchion mislif.”- Leah

I sicrhau eich lle, cofrestrwch trwy adran Ddigwyddiadau gwefan Undeb Bangor.  Trwy wneud hynny, byddwch yn derbyn y cyswllt Zoom a'r cyfrinair i ymuno â'r sesiwn.

Bydd Leah yn defnyddio Mentimeter, meddalwedd cyflwyno rhyngweithiol, ynghyd â Zoom. Bydd hyn yn caniatáu iddi gynnwys arolygon rhyngweithiol a chwisiau. Dilynwch y ddolen isod i gael mynediad at Mentimeter; bydd Leah yn darparu'r cod i ymuno ar ddechrau'r sesiwn.

https://www.menti.com/

Bydd angen naill ai:

  • Mynediad at ddwy sgrin, fel eich ffôn a'ch gliniadur, gyda Zoom ar un a Mentimeter ar y llall

Neu:

  • Mynediad at un sgrin gyfrifiadur - dylech allu lleihau'r fideo Zoom i edrych ar Mentimeter

I sicrhau eich lle, cofrestrwch trwy adran Ddigwyddiadau gwefan Undeb Bangor.  Trwy wneud hynny, byddwch yn derbyn y cyswllt Zoom a'r cyfrinair i ymuno â'r sesiwn.