Ymgyrch Tai UCM Cymru

Mae UCM Cymru a Shelter Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i daflu goleuni ar y mater hwn a dangos pam mae angen i Lywodraeth Cymru a darparwyr tai weithio i #DatrysLletyMyfyrwyr.

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod y lleoedd rydyn ni'n byw ynddyn nhw’n cael effaith sylfaenol ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Mae byw mewn tŷ neu fflat sy'n anniogel, yn gyfyng, yn ddrud, neu bob un o'r uchod, yn cael effaith andwyol ar iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd pobl. Ond am gyfnod rhy hir, mae tai israddol wedi bod yn realiti i fyfyrwyr ledled Cymru. Yn rhy aml o lawer, mae myfyrwyr yn teimlo nad oes ganddyn nhw’r pŵer i herio eu landlordiaid ar faterion yn ymwneud â'u tai, tra bod mwy a mwy o fyfyrwyr yn ei chael hi'n anodd fforddio hyd yn oed y llety mwyaf sylfaenol. Mae tai myfyrwyr wastad wedi bod yn gyfystyr ag ansawdd isel, costau uchel a landlordiaid diegwyddor, ac mae'r myth y dylai myfyrwyr Mae UCM Cymru a Shelter Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i daflu goleuni ar y mater hwn a dangos pam mae angen i Lywodraeth Cymru a darparwyr tai weithio i #DatrysLletyMyfyrwyr. orfod byw mewn tai gwael fel rhyw fath o ddefod sy’n rhan naturiol o fywyd, yn niweidiol iawn i lesiant a chanlyniadau academaidd myfyrwyr. Meddyliwch am y peth - p'un a ydych chi'n astudio ar hyn o bryd neu y bu i chi raddio flynyddoedd yn ôl - rydyn ni'n siŵr bod gennych chi o leiaf un stori arswyd yn ymwneud â thai myfyrwyr. O leiaf un peiriant wedi torri na chafodd ei drwsio, un twll yn y wal neu'r nenfwd oherwydd lleithder, un pla na chafodd ei ddifa. Pwrpas yr ymgyrch hon yw cael pobl i siarad am dai myfyrwyr a dangos y gallwn ni wneud cymaint yn well. Mae myfyrwyr yn haeddu byw mewn tai sy'n amddiffyn eu llesiant ac yn caniatáu iddynt ffynnu ym mhob agwedd ar eu bywydau a'u hastudiaethau.

Arwyddwch y ddeiseb heddiw

Sylfeini Wedi Torri: Datrys Argyfwng Llety Myfyrwyr

Cynhaliodd UCM Cymru a Shelter Cymru arolwg ymysg cannoedd o fyfyrwyr mewn prifysgolion ledled Cymru ynghylch eu profiadau o ran llety a thai. Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau sy'n cynnwys argymhellion ar sut i wella tai myfyrwyr.

Cynhaliwyd yr arolwg ym mis Mai a Mehefin 2021, ac mae’r canfyddiadau'n dangos yn glir y llu o broblemau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu a bod angen #DatrysLletyMyfyrwyr. Mae'r system wedi torri wrth ei sylfeini, ac yn hytrach nag amddiffyn myfyrwyr, mae'n aml yn gweithio yn eu herbyn.

Mae'r adroddiad hwn yn cynrychioli rhan gyntaf prosiect cydweithredol rhwng UCM Cymru a Shelter Cymru. Byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd 2021/22 ar dirwedd ddeddfwriaethol a rheoliadol y sector tai myfyrwyr.

Ein argymhellion

1. Rhaid i BOB myfyriwr fod â'r un hawliau ac amddiffyniadau, waeth ble maen nhw'n byw

2. Rhaid i bob myfyriwr fod yn gallu dwyn eu landlordiaid i gyfrif

3. Rhaid i bob myfyriwr allu fforddio byw mewn tai diogel ac iach