Diweddariadau i Erthyglau Cymdeithas Undeb Bangor

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) yn cynnig diweddariadau i’w Erthyglau Cymdeithas – y ddogfen lywodraethu sy’n nodi sut mae’r Undeb yn gweithredu. Mae’r Erthyglau wedi’u diweddaru yn dilyn Adolygiad Democratiaeth ac ymgynghoriad gyda myfyrwyr, staff a’r ymddiriedolwyr, gyda’r nod o wneud yr Undeb yn fwy hygyrch, atebol ac wedi’i arwain gan fyfyrwyr. Nod y newidiadau hyn yw symleiddio llywodraethu, gwella atebolrwydd, ac adlewyrchu terminoleg a strwythurau cyfredol.

 

Beth yw Erthyglau Cymdeithas?

Mae gwybod yn union sut mae unrhyw endid cyfreithiol elusennol yn gweithredu yn bwysig er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau’n cael eu dilyn yn gywir ac yn helpu i gyflawni ei nodau. Erthyglau Cymdeithas Undeb Bangor yw llyfr rheolau’r Undeb, gan osod y fframwaith sy’n eistedd ochr yn ochr â’r Is-ddeddfau, sef rheolau dydd i ddydd y sefydliad, sy’n rhoi disgrifiad manwl o weithrediadau’r sefydliad.

Pam mae’r Erthyglau’n cael eu diweddaru?

Nid yw’r Erthyglau presennol yn diwallu anghenion newidiol y sefydliad na’r aelodaeth (chi, y myfyrwyr!).

Gallwch ddarllen y newidiadau arfaethedig i’r Erthyglau Cymdeithas yma.

 

Beth sy’n Newid?

Yn gryno, y prif newid yw symudiad mewn terminoleg a strwythur llywodraethu i adlewyrchu’n well sut mae Undeb Bangor yn gweithredu heddiw. Bydd y term “Swyddog Sabbothol” yn cael ei ddisodli gan “Swyddog Myfyrwyr” drwy’r Erthyglau i wneud y rolau’n gliriach ac yn fwy perthnasol. Bydd cyfeiriadau at strwythurau sydd wedi dyddio fel y Cyngor Myfyrwyr yn cael eu disodli gan y Pwyllgor Gweithredol, a bydd rolau llywodraethu fel Cadeirydd y Bwrdd bellach yn cael eu dal gan ymddiriedolwr allanol, gyda’r Llywydd yn gweithredu fel Dirprwy Gadeirydd.

Mae’r newid hwn i rôl y Cadeirydd wedi’i gynllunio i gryfhau llywodraethu’r Undeb drwy sicrhau parhad, sefydlogrwydd ac arbenigedd proffesiynol ar lefel y Bwrdd. Er bod y Llywydd yn parhau i fod yn arweinydd gwleidyddol allweddol y sefydliad, mae gwahanu’r rôl hon oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd yn galluogi’r Undeb i elwa o brofiad allanol mewn goruchwyliaeth strategol, tra’n rhyddhau’r Llywydd i ganolbwyntio ar gynrychioli a ymgyrchu dros fyfyrwyr.

Yn bwysig, mae arweinyddiaeth myfyrwyr yn parhau i fod wrth galon llywodraethu’r Undeb. Bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn parhau i gynnwys pum Swyddog Myfyrwyr etholedig a phedwar Ymddiriedolwr Myfyrwyr, gan sicrhau bod myfyrwyr yn dal yn brif llais mewn gwneud penderfyniadau. Yn ogystal, mae’r Erthyglau’n cynnig mabwysiadu Ymddiriedolwr Allanol ychwanegol i ddod ag arbenigedd pellach a chefnogi datblygiad strategol yr Undeb.

Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Undeb Myfyrwyr, atebolrwydd cliriach, a strwythur sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau wedi’u harwain gan fyfyrwyr yn well. Ni fydd hawliau dydd i ddydd yr aelodau’n newid, a bydd myfyrwyr yn parhau i ethol ymddiriedolwyr swyddogion myfyrwyr.

Er mwyn i’r newidiadau hyn gael eu mabwysiadu, mae eich cymeradwyaeth fel aelodau’n hanfodol.