Pam fydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Aelodau Myfyrwyr?

Mae Undeb Bangor yn sefydliad elusennol aelodaeth, wedi’i redeg gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Rydym yn annibynnol i Brifysgol Bangor ac mae llawer o’n penderfyniadau’n cael eu gwneud gan ein haelodau myfyrwyr (chi!) drwy amryw o sianeli.

Ar hyn o bryd, pan fydd Erthyglau Cymdeithas yn cael eu diwygio, rhaid i’r newidiadau gael eu cymeradwyo gan Gyfarfod Aelodau Myfyrwyr, sy’n cynnwys chi a’r holl fyfyrwyr eraill ym Mangor!

Bydd y Cyfarfod Aelodau Myfyrwyr yn sicrhau bod y diwygiadau i’r Erthyglau’n cael eu cymeradwyo, gan alluogi chi, y myfyrwyr, i sicrhau bod gan Undeb Bangor set glir o reolau ac yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y sefydliad i sicrhau tryloywder. Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd yn gyfle i fyfyrwyr benderfynu'n uniongyrchol ar flaenoriaethau Undeb y Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn. Bydd cyfle gennych i drafod a dadlau beth yw eich barn chi y dylai Undeb y Myfyrwyr fod yn gweithio arno.

 

Pwy all fynychu’r Cyfarfod Aelodau Myfyrwyr?

Mae pob myfyriwr ym Mangor yn aelod o Undeb Bangor yn awtomatig, felly mae croeso i bob myfyriwr fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Aelodau Myfyrwyr ac ardystio’r newidiadau i’r Erthyglau Cymdeithas.

 

Beth sydd eisoes wedi digwydd?

Mae ein Tîm Llais Myfyrwyr wedi treulio dros 6 mis yn nodi gwelliannau yn seiliedig ar eich adborth ac wedi gweithio ar draws timau i sicrhau bod yr Erthyglau Cymdeithas a’r Is-ddeddfau wedi’u diweddaru yn diwallu anghenion yr Undeb a’r gymuned fyfyrwyr. Fel rhan o’r ymroddiad hwn, cynhaliwyd adolygiad allanol o drefniadau llywodraethu Undeb Bangor yn Semester dau 2025. Roedd argymhelliad o’r gwaith yma i Undeb Bangor foderneiddio ei drefniadau llywodraethu. Mae’r Erthyglau hefyd yn nodi y gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mewn ymgynghoriad ag aelodau (myfyrwyr), ddiwygio’r Erthyglau Cymdeithas. Mae hyn yn galluogi Undeb Bangor i addasu’n gadarn i dirweddau newidiol ac i ddiwallu eich anghenion yn y dyfodol.

 

Beth fydd yn digwydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Aelodau Myfyrwyr?

Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Aelodau Myfyrwyr, bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Erthyglau’n cael eu cyflwyno i’n Haelodau Myfyrwyr. Bydd cyfle i’r mynychwyr eu trafod yn agored.

I gloi, bydd pleidlais yn cael ei chynnal i ardystio’r newidiadau i’r Erthyglau Cymdeithas a phasio penderfyniad.

 

Beth sy’n digwydd ar ôl y Cyfarfod Aelodau Myfyrwyr?

Unwaith y bydd y diwygiadau wedi’u pasio, byddant yn mynd i Brifysgol Bangor i’w cymeradwyo’n derfynol ac yna’n cael eu cyflwyno i’r Comisiwn Elusennau. Er nad yw Prifysgol Bangor yn penderfynu ar bolisïau Undeb Bangor, nhw yw’r prif reoleiddiwr a cyllidwr y sefydliad.

 

Sut ydw i’n ymuno â’r Cyfarfod Aelodau Myfyrwyr? 

Croeso i bob myfyriwr. Dim ond dod i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar y 7fed o Hydref yn PL2 Pontio, 3ydd Llawr am 6pm sydd angen i chi ei wneud.

 

Gyda phwy ydw i’n cysylltu os oes gen i gwestiynau?

Gallwch gysylltu â’n Tîm Llais Myfyrwyr ar studentvoice@undebbangor.com