Sesiynau Gwrando

Rydym hefyd yn cynnig sesiynau gwrando yma yn Undeb y Myfyrwyr. Sesiynau gofod diogel yw'r rhain yn benodol i glywed gan wahanol grwpiau a allai wynebu rhwystrau ychwanegol, a dod â phobl ynghyd sy'n rhannu profiad byw i gynorthwyo trafodaeth a sbarduno gweithredu ar y cyd. Yn y sesiynau hyn, gallwn gynnig cefnogaeth i chi i gyflwyno'r Ffurflen Gwneud Newid, y Ffurflen Adborth Academaidd, a gwrando'n gyffredinol ar eich adborth a deall ac archwilio'r heriau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar eich grŵp. Y grwpiau presennol yr ydym yn cynnig sesiynau gwrando ar eu cyfer yw;

Myfyrwyr Du, Asiaidd, a Lleiafrifol
Myfyrwyr LHDT+
Myfyrwyr Anabl
Myfyrwyr Niwroamrywiol
Myfyrwyr Rhyngwladol
Rhieni, Gofalwyr a Myfyrwyr Hŷn
Myfyrwyr Cymraeg
Myfyrwyr PhD