Dewch yn Gynrychiolydd Ysgol: Ceisiadau Nawr Ar Agor ar gyfer 2025/26!
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich Ysgol a helpu i lunio'r profiad academaidd i fyfyrwyr? Mae ceisiadau i ddod yn Gynrychiolydd Ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn dal ar agor! Gwnewch gais nawr fel nad ydych chi'n colli allan!
Rydym yn dal i chwilio am geisiadau gan fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ym mhob ysgol.
Rydym hefyd yn chwilio am geisiadau gan israddedigion yn y meysydd pwnc canlynol:
- Ysgol Fusnes Bangor: Cyfrifeg, Bancio, Cyllid a Dadansoddeg Data
- Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith: Drama a Pherfformio, Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a'r Gwyddorau Cymdeithasol: Y Gyfraith, Plismona, Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
- Ysgol Addysg: Addysgu
- Ysgol y Gymraeg: Pob maes pwnc
- Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg: Peirianneg Electronig, Peirianneg
- Ysgol y Gwyddorau Naturiol ac Amgylcheddol: Bioleg, Daearyddiaeth, Coedwigaeth, Gwyddor Amgylcheddol, Ecoleg Bywyd Gwyllt
- Ysgol y Gwyddorau Iechyd: Nyrsio, Bydwreigiaeth Ysgol Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff: Pob maes pwnc
- Ysgol Feddygol Gogledd Cymru: Meddygaeth, Fferylliaeth, Ffarmacoleg

Sut Mae'n Gweithio?
Dewisir Cynrychiolwyr Ysgol drwy gais ysgrifenedig byr a chyfweliad grŵp cyfeillgar (trwy wahoddiad). Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol—dim ond brwdfrydedd, parodrwydd i ddysgu, a diddordeb gwirioneddol mewn gwella profiad y myfyriwr.
Cyfweliadau: Cynhelir 7fed - 9fed Hydref
Adborth: Ar gael ar gais i bob ymgeisydd a wahoddir i gyfweliad
Oes gennych Gwestiynau?
Rydym yma i helpu! Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â ni yn: studentvoice@undebbangor.com