Ein prif amcan yma yn Undeb Bangor yw sicrhau eich bod yn derbyn y profiadau gorau tra ym Mhrifysgol Bangor. Ni yw eich Undeb Myfyrwyr, caiff ei rhedeg gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr, ac rydym yma i’ch cefnogi, i’ch cynrychioli, a’ch dathlu drwy gydol eich taith yn y brifysgol. Meddyliwch amdanom fel angor i’ch bywyd myfyriwr. Rydym yma i wrando ar eich llais, sefyll dros yr hyn sydd yn bwysig i chi, a sicrhau fod eich profiad ym Mangor yn un gwobrwyol, positif a llawn hwyl. Mae cychwyn yn y brifysgol yn gam mawr, ac rydym ni yma i fod o gymorth i chi wneud y gorau ohono o’r cychwyn un. P’un a’i eich bod yn ymuno â ni ym mis Medi neu yn cynllunio eich dyfodol ym Mangor, Undeb Bangor fydd eich Undeb Myfyrwyr, yma i’ch cynrycholi, i’ch cefnogi, ac i fod o gymorth i siapio’ch profiad fel myfyriwr.
Rydym yn cefnogi dros 10,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor drwy eu cynrychioli, cynnal digwyddiadau, cymdeithasau, chwaraeon, gwirfoddoli, a chynnig cyngor academaidd. Fel Undeb Myfyrwyr annibynol ac elusen gofrestredig, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol er mwyn sicrhau fod eich llais yn glywedadwy. O arwain ymgyrchoedd i gynrychioli eich diddordebau academaidd, i ddarparu cefnogaeth a chreu cyfleoedd er mwyn eich galluogi i gymryd rhan, mae Undeb Bangor wrth galon bywyd myfyrwyr.
Rydym hefyd yn falch iawn o’n dwyieithrwydd a’n cynhwysiant. Mae UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yn rhan-annatod o Undeb Bangor ac yn gweithio i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i chymuned ar y campws. P’un a’i eich bod yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn siaradwr newydd, neu â diddordeb yn y diwylliant Cymraeg, mae mwy na croeso i chi gymryd rhan.
Yma ym Mangor, mae ganddom fwy o weithgareddau a chwaraeon na allwch fyth ddychmygu, mae’n ffordd berffaith o greu ffrindiau newydd, cwrdd â phobol newydd, a thrio rhywbeth newydd sbon.
Cynhelir ein digwyddiad croeso mwyaf y flwyddyn, Serendipity yn ystod yr Wythnos Groeso, yng Nghanolfan Brailsford. Yno fe ddewch o hyd i dros 150 o stondinau a gaiff eu rhedeg gan grwpiau o fyfyrwyr, gwasanaethau prifysgol, a busnesau lleol, pob un yn awyddus i fod o gymorth i sicrhau eich bod yn gael y gorau o’ch amser ym Mangor. Paratowch i dderbyn nifer o eitemau am ddim, cyfleoedd cyffrous, a llawer o wybodaeth ar sut i gymryd rhan. Mae’n gyfle perffaith i archwilio eich opsiynau, cwrdd â phobol newydd, a chamu mewn i fywyd myfyriwr!