Pwyllgor Gwaith

Oni bai fod yr Ymddiriedolwyr yn pennu fel arall, y Pwyllgor Gwaith fydd yr Ymddiriedolwyr sy'n Swyddogion ac, mewn swyddogaeth ddibleidlais, Cyfarwyddwr yr Undeb. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cwrdd yn unol â'r is-ddeddfau.  Ei brif fusnes yw trafod gweithredu projectau a syniadau a fydd yn gwella bywydau myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Rhaid i'r Pwyllgor Gwaith sicrhau bod holl weithgareddau Undeb Bangor yn dilyn yr holl bolisïau perthnasol. Dylai agendâu a chofnodion y Pwyllgor Gwaith gael eu cyhoeddi ar wefan Undeb Bangor yn rheolaidd dros y flwyddyn academaidd. Dylai'r Pwyllgor Gwaith gymryd cyfarwyddyd gan y Cyngor Cynrychioli Myfyrwyr a'r CC / CCB, bod yn atebol iddynt ac adrodd iddynt ar gynnydd, a gall fabwysiadu swyddogaethau gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr fel y dirprwyir ganddo. Mae aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn rhydd i strwythuro'r cyfarfodydd fel y gwelant yn dda, cyn belled bod yr amodau a amlinellir yn yr is-ddeddf yn cael eu cyflawni.