Wythnos Groeso 2025

Croeso i Undeb Bangor, Eich Undeb Myfyrwyr

Mae dechrau prifysgol yn gam mawr, ac rydym yma i'ch helpu i wneud y gorau ohono o'r diwrnod cyntaf. P'un a ydych chi'n ymuno â ni ym mis Medi neu'n meddwl am ddod yn fyfyriwr ym Mangor yn y dyfodol, Undeb Bangor yw eich Undeb Myfyrwyr, yn eich cynrychioli, yn eich cefnogi, ac yn eich helpu i lunio'ch profiad myfyriwr. Rydym yn cefnogi dros 12,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor trwy gynrychiolaeth, digwyddiadau, cymdeithasau, chwaraeon, gwirfoddoli, a chyngor academaidd. Rydym hefyd yn gartref i UMCB, undeb iaith Gymraeg Bangor, sy'n cefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg trwy gymunedau a gwasanaethau ymroddedig.


Beth sy’n digwydd yn ystod Wythnos Croeso?

Rydyn wedi llunio rhestr o ddigwyddiadau a chyfleoedd sydd wedi’u cynllunio i'ch helpu i gwrdd â phobl, dod o hyd i'ch traed, ac archwilio’r hyn sydd gan Fangor I'w gynnig.


Cynhadledd Arweinyddiaeth Myfyrwyr: 19eg o Fedi

Cyfle cynnar i ddysgu am yr Undeb Myfyrwyr, sut rydym yn gweithio, a sut allwch chi gymryd rhan. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr presennol, ond mae croeso i bawb.


Ymlacio a Sgwrsio: 20fed a 21ain o Fedi

Lle hamddenol, anffurfiol yn win Hwb Gweithgareddau I'r rhai sy’n well ganddynt amgylchedd tawelach i wedd a phobl newydd, sgwrsio a’n tîm, darganfod mwy am Undeb y Myfyrwyr. Byrbrydau am ddim a Phitsa Dominos!


Serendipity Fair y Glas: 24ain & 25aim o Fedi (11am-3pm)

Ein digwyddiad croeso mwyaf y flwyddyn, a gynhelir yng Nghanolfan Brailsford. Byddwch yn ffeindio dros 150 o stondinau a redir gan grwpiau myfyrwyr, gwasanaethau a busnesau lleol. Disgwyliwch ddigonedd o bethau am ddim a llawer o wybodaeth am sut i gymryd rhan.


Serendipity Awr Dawel: 24ain & 25ain o Fedi (10am-11am)

Os bod gwell gennych fynychu yn ystod amser tawelach, rydym wedi neilltuo awr dawel ar ddechrau pob diwrnod.

 


Stondinau Cofrestru a Chroeso Rhyngwladol

Fe welwch chi ni hefyd ym mhwyntiau cofrestru’r brifysgol, lle byddwn yn rhoi llinynnau gwddf a gwybodaeth i helpu chi ddechrau.

Bydd mwy o fanylion am yr holl weithgareddau yma ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

 

Beth yw Undeb Bangor?

Mae Undeb Bangor yn Undeb Myfyrwyr annibynnol, sy’n gweithredu fel elusen gofrestredig ac yn gweithio mewn partneriaeth a Phrifysgol Bangor. Rydym yn cynnal ymgyrchoedd, yn cynrychioli eich buddiannau academaidd, yn darparu cefnogaeth a chyngor, ac yn creu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn yn eich bywyd myfyrwyr, ai bod hynny trwy gymdeithasau, chwaraeon, gwirfoddoli, neu arweinyddiaeth.

Rydym hefyd yn falch o fod yn ddwyieithog ac yn gynhwysol. Mae UMCB, Undeb Myfyrwyr Cymru, yn ran o Undeb Bangor ac yn gweithio i hyrwyddo’r iaith, y diwylliant a’r gymuned Gymreig ar y campws. Ai a ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu newydd ddechrau dysgu, mae croeso i chi gymryd rhan.

Gallech cwrdd a’r tîm staff YMA.


Cymerwch Ran: Cymdeithasau a Chlybiau

Yn Undeb Bangor rydym yn cefnogi dros 100 o gymdeithasau dan arweiniad myfyrwyr a thua 60 o glybiau chwaraeon. Mae'r rhain yn ffordd wych o gwrdd â phobl, archwilio eich diddordebau, a chael mwy o’ch profiad prifysgol. Gallwch bori popeth ar-lein a hidlo yn ôl diddordeb. Mae pob tudalen grŵp yn dangos beth maen nhw’n ei wneud, pryd maen nhw’n cyfarfod, a sut i ymuno. Mae llawer o grwpiau hefyd yn cynnal sesiynau blasu a gweithgareddau “Rhowch Gynnig Arni” yn ystod Wythnos Groeso fel y gallech chi roi cynnig arnyn nhw cyn ymuno.


Sut i ymuno?

Ymweld â thudalen y grŵp ar ein gwefan > Dewis opsiwn aelodaeth a mewngofnodi i mewn gydag eich manylion prifysgol > Adio I'r fasged, talwch allan, ac rydych fewn!

Byddwch yn clywed gan y pwyllgor am y camau nesaf.


Ydw i angen profiad?

Na. Mae rhan fwyaf o grwpiau yn rhoi croeso i gychwynwyr, ac mae yna o hyd rhywun yna i help chi gychwyn. Os ti’n ansicr, cysylltwch â’r pwyllgor trwy ei thudalen.


Angen cymorth neu addasiadau?

Os oes gennych anghenion hygyrchedd, pryderon ariannol, neu unrhyw gwestiynau ynglŷn â chymryd rhan, cysylltwch â’r pwyllgor yn uniongyrchol neu anfonwch e-bost i ni opportunities@undebbangor.com


Costau Aelodaeth

Trwydded Mynediad Cymdeithasau:

£10 ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan – Ymunwch ab chyfnifer o gymdeithasau ag y dymunwch heb unrhyw gost ychwanegol.


Trwyddedau Mynediad Clybiau Chwaraeon:

Aur (£100): Ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau cystadlu, ymarfer yn rheolaidd, a mynychu gemau

Arian (£50): Ar gyfer myfyrwyr sy’n edrych am rywbeth mwy achlysurol, profiad adloniadol.

Unwaith mae gen i drwydded, mae’r gallu i ymuno ac unrhyw glwb, heb dalu mwy.

Rydych yn gallu ffeindio mwy o wybodaeth am y ffi aelodaeth YMA.


Gwirfoddoli ym Mangor

Eisiau gwneud gwahaniaeth, cwrdd â phobl, a meithrin eich sgiliau? Mae Undeb Bangor yn cynnal mwy na 30 o brosiectau gwirfoddoli, sy’n cwmpasu popeth o weithredu amgylcheddol a chefnogaeth iechyd meddwl i weithio gyda phlant, pobl hyn, a chymunedau lleol.

Mae gwirfoddoli yn hyblyg, yn ystyrlon, a gall eich helpu i adeiladu profiad go iawn ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Mae’r holl gyfleoedd cyfredol wedi’u rhestru ar ein gwefan YMA, lle gallwch bori yn ôl diddordeb a chofrestru’n hawdd.


Bywyd Cymraeg ym Mangor, UMCB

UMCB yw Undeb Myfyrwyr Cymru, sy’n cynrychioli siaradwyr Cymraeg, dysgwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Mae UMCB yn cefnogi ystod eang o glybiau a chymdeithasau, yn ymgyrchu ar ran myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, ac yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol i gadw’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ganolog i fywyd ym Mangor.

Nid oes angen i chi fod yn rhugl i gymryd rhan, dim ond angen diddordeb. Mae UMCB yn gymuned groesawgar a chynhwysol, a gallwch ymuno a’i grwpiau yn yr un ffordd ag y byddech yn ymuno ag unrhyw grŵp myfyrwyr arall. Am fwy o wybodaeth neu gefnogaeth, e-bostiwch opportunities@undebbangor.com


Ymgartrefu: Beth i ddod a beth i wneud

· Dewch a’ch cerdyn myfyriwr i Serendipity, mae angen o i gael mynediad.

· Dewch a’ch ffon fel y gallwch gofrestru ar gyfer clybiau, cymdeithasau a gwirfoddoli ar unwaith.

· Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Undeb Bangor ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

· Dechreuwch bori grwpiau a chyfleoedd ar ein gwefan cyn i chi gyrraedd, fel bod gennych syniad o’r hyn sydd ar gael.


Lle i gael Cymorth

Mae dechrau prifysgol yn gallu teimlo’n llethol, ond nid ydych chi ar ben eich hun. Os ysoch chi’n wynebu heriau academaidd neu’n ansicr sut i lywio prosesau prifysgol, rydym yn cynnig Cyngor a Chymorth Academaidd am ddim, cyfrinachol a phroffesiynol.


Gallwn ni helpu gyda:

· Apeliadau, cwynion ac amgylchiadau lliniarol

· Achosion disgyblu neud camymddwyn

· Cyngor ar weithdrefnau a pholisi’r brifysgol

· Cymorth gydag ysgrifennu datganiadau a mynychu cyfarfodydd

· Pryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer

· Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion YMA.


Os oes angen cymorth lles neu iechyd meddwl arnoch, gallwch hefyd gysylltu a thîm y Brifysgol yn wellbeingservices@bangor.ac.uk


Allwn ni ddim aros i'ch croesawu i Fangor ym mis Medi. Ai a ydych chi’n bwriadu cymryd rhan mewn cymdeithasau, cymryd rhan mewn chwaraeon, gwirfoddoli yn y gymuned, neu ddim ond eisiau dod o hyd i le lle rydych chi’n perthyn, mae Undeb Bangor yma i'ch cefnogi bod cam o’r ffordd. Welwn ni chi cyn bo hir.

- Tîm Undeb Bangor