Ymgyrch Tai

Dros y misoedd nesaf byddwn yn gweithio’n agos gyda Swyddfa Tai’r Brifysgol, Shelter Cymru a UCM Cymru er mwyn eich helpu chi i ddarganfod y tai myfyrwyr gorau sydd ar gael, yn ogystal â helpu ar lefel genedlaethol i #DatrysLletyMyfyrwyr. 

Mae rhai myfyrwyr yn dechrau meddwl am symud i mewn i dai myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ac rydym ni eisiau eich tywys chi drwy’r broses fel eich bod yn y sefyllfa orau bosibl y flwyddyn nesaf. Dilynwch ein canllaw 6 cham yma. 

Rydym yn awyddus i glywed gan y myfyrwyr mwy profiadol am eu profiadau o fyw mewn tai myfyrwyr a byddem wrth ein bodd yn cael tips ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried symud i mewn i dai myfyrwyr y flwyddyn nesaf. Llenwch ein ffurflen yma neu ein pôl ar Instagram. 

Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio ar Lefel 2 Pontio ar 22 a 25 Tachwedd rhwng 11am a 4pm lle bydd Swyddfa Dai'r Brifysgol a Shelter Cymru yn ymuno â ni. Bydd y sesiynau hyn yn gyfle i gael rhywfaint o gyngor tai gan yr arbenigwyr. Byddant hefyd yn gallu eich cyfeirio at, a thrafod Studentpad, yr unig le i ddod o hyd i dai myfyrwyr sy’n cael ei osod yn breifat sydd wedi'u cofrestru â Phrifysgol Bangor. 

Cynhaliodd UCM Cymru a Shelter Cymru arolwg ymysg cannoedd o fyfyrwyr mewn prifysgolion ledled Cymru ynghylch eu profiadau o ran llety a thai. Mae nhw wedi cyhoeddi adroddiad ar eu canfyddiadau sy'n cynnwys argymhellion ar sut i wella tai myfyrwyr. Cynhaliwyd yr arolwg ym mis Mai a Mehefin 2021, ac mae’r canfyddiadau'n dangos yn glir y llu o broblemau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu a bod angen #DatrysLletyMyfyrwyr. Mae'r system wedi torri wrth ei sylfeini, ac yn hytrach nag amddiffyn myfyrwyr, mae'n aml yn gweithio yn eu herbyn. 

I gymryd rhan yn eu hymgyrch lobïo, llofnodwch eu deiseb i #DatrysLletyMyfyrwyr. 

www.nus-wales.org.uk/housing 

 

Dyma rai adnoddau eraill i'ch helpu i ddod o hyd i'r tŷ myfyriwr gorau i chi. 

Siaradwch â'r tenantiaid presennol a'u hadolygiadau o'r eiddo ar www.marksoutoftenancy.com 

Methu dod i’r sesiwn galw heibio? Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Dai yn uniongyrchol drwy https://www.bangor.ac.uk/studentservices/studenthousing/