Ein Cyflenwyr

 

                                                    

                                       sy’n cyflenwi ein hunedau dosbarthu a thamponau cyffredin gyda dodwyr.

 

Pam wnaethon ni ddewis TOTM:

  • Mae TOTM yn gwmni o Gymru sydd â’u canolfan yng Nghaerdydd ac roeddem am gefnogi a phrynu gan gwmni mwy lleol os oedd hynny'n bosibl.

  • Mae eu cynnyrch yn hynod gyfeillgar i'r amgylchedd; mae’r tamponau gyda dodwyr yr ydym yn eu stocio gan TOTM yn 100% cotwm organig gyda dodwr cardbord a deunydd lapio y gellir ei ailgylchu. Mae eu hunedau dosbarthu wedi’u gwneud o ddeunyddiau sydd wedi'u hailgylchu.

  • Rydym yn gallu cydweithio â nhw i gyflwyno digwyddiadau cyffrous fel y sgwrs gyda'r actifydd amgylcheddol, Ella Daish.

“Mae TOTM yn bwriadu chwyldroi’r diwydiant gofal mislif unwaith ac am byth. Mae eu hystod o gynnyrch cotwm organig a chynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio yn cynnwys deunyddiau cynaliadwy o ansawdd uchel i hwyluso mislif cyfforddus a chyfeillgar i'r blaned. Mae TOTM yn cymryd agwedd newydd at ofal mislif sy'n ymwneud ag ymwybyddiaeth, cyfleustra a dewis. Maent yn ymroi i sicrhau bod eu hamrywiaeth eang o gynnyrch, sydd wedi’i ardystio am fod yn foesegol a chynaliadwy, ar gael pan fydd ei angen arnoch fwyaf. Maent yn falch o fynd gam ymhellach na dim ond gwella sut y byddwn yn rheoli'r mislif. Mae TOTM yma i wneud gwahaniaeth - maent am chwalu tabŵs a hyrwyddo achosion iechyd ac urddas mislif i rymuso merched.”

https://www.totm.com/

 

                                                             

 

 

                                                             

                    sy’n cyflenwi ein padiau llif trwm ar y campws ac amrywiaeth o gynhyrchion trwy ddosbarthu i’r cartref. 

 

Pam wnaethon ni ddewis Hey Girls:

  • Amlygodd canlyniadau ein harolwg cychwynnol fod angen mynediad ar fyfyrwyr at amrywiaeth o gynnyrch, cynnyrch sy'n addas at eu hanghenion unigol ac amrywiol, felly dyna’r hyn rydym wedi'i ddarparu! Mae Hey Girls yn stocio bron i bob opsiwn posib, o badiau a thamponau deunydd untro i badiau y gellir eu hailddefnyddio, pants mislif a chwpanau mislif. Yn fwy na hynny, gallant eu danfon yn uniongyrchol at garreg drws myfyrwyr; rhywbeth sydd wedi bod yn werthfawr iawn yn ystod y pandemig Coronafirws.

  • Mae ganddynt brofiad ac maent wedi gweithio'n agos gydag amryw o sefydliadau addysgol ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys nifer yn yr Alban, ac mae’r Alban erbyn hyn wedi sicrhau cynhyrchion mislif am ddim i bawb! Beth am i ni ddilyn yn ôl troed yr Alban?

  • Mae pris eu cynhyrchion mislif wedi golygu ein bod yn gallu cynnig mynediad at gynhyrchion i gynifer o fyfyrwyr â phosibl gyda'r cyllid sydd ar gael gennym.

  • Yn achos pob eitem a brynir, rhoddir un am ddim i helpu pobl sy'n cael mislif nad ydynt yn gallu cael mynediad at gynnyrch.

https://www.heygirls.co.uk/