Cwynion

Er y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn mynd trwy fywyd prifysgol heb brofi unrhyw anawsterau mawr, yn anffodus o bryd i'w gilydd gall rhai myfyrwyr ddod ar draws sefyllfa pan fyddant yn teimlo'n anfodlon neu'n teimlo  eu bod wedi cael eu trin yn annheg.

Am beth y gallaf gwyno?

Y broses

Beth all Undeb y Myfyrwyr ei wneud i helpu? 

Ni ddylid defnyddio’r Drefn Cwynion Myfyrwyr at y dibenion canlynol:

•I gwyno am ymarweddiad neu ymddygiad myfyriwr arall. (Dylai'r cwynion hyn gael eu cyfeirio at y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio o dan Reoliad Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol).
•I gwyno am ymddygiad aelod staff a'r gŵyn honno heb gysylltiad â gwaith neu brofiad academaidd y myfyriwr. (Rhaid cyfeirio cwynion o'r fath at y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio yn y lle cyntaf i benderfynu a ddylid cyfeirio'r gŵyn at Adnoddau Dynol). 
•I apelio yn erbyn canlyniadau asesiad academaidd, yn erbyn penderfyniad ar gynnydd academaidd, neu yng nghyswllt cymhwyster terfynol. (Dylid defnyddio'r Drefn Apeliadau Academaidd).
Gall Undeb y Myfyrwyr gynnig cyngor a chefnogaeth ar yr holl faterion uchod.