Hafan

Llun o Tara, ein Cydlynydd Cyngor Academaidd ac YmgyrchoeddMae Undeb Bangor yn cynnig gwasanaeth Cyngor Academaidd cyfrinachol a professiynol i fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Gallwn eich Cynghori ynglŷn â'r amryw brosesau, rhoi sylwadau ynglŷn â'ch apêl ac ymostyngiadau, a gallwn helpu chi i baratoi ar gyfer gwrandawiadau disgyblu neu gyfarfodydd Prifysgol. Gallwn hefyd mynychu'r cyfarfodydd yma gyda chi neu ar eich rhan. Byddem yn eich helpu i gynrychioli eich hun ynglŷn â'ch achos a sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael i'w ddilyn.

Beth allwn ni ei wneud?

  • Eich helpu i ddeall prosesau apeliadau, cwynion ac amgylchiadau lliniarol.

  • Eich cefnogi chi trwy'r broses o gyflwyno apêl, cwyn neu gais am amgylchiadau lliniarol.

  • Eich helpu i lunio datganiadau a thystiolaeth i gefnogi eich apêl, cwyn neu gais am amgylchiadau lliniarol.

  • Monitro cynnydd eich apêl, cwyn neu gais am amgylchiadau lliniarol.

  • Cynnig cynrychiolaeth a chefnogaeth trwy fynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd gyda'r brifysgol.

  • Eich helpu i archwilio'r opsiynau os oes gennych bryderon am eich cwrs ac yn achos newid cwrs.

  • Cynnig cefnogaeth mewn achosion disgyblu, achosion o gamweinyddu ac achosion o gamymddwyn trwy egluro'r broses a'r rheoliadau, eich helpu i baratoi tystiolaeth, mynd gyda chi i unrhyw wrandawiadau, a'ch cynorthwyo i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau.

  • Cynnig cefnogaeth gydag unrhyw faterion Addasrwydd i Ymarfer, gan gynnwys eich helpu i ddeall y trefnau, eich cynorthwyo trwy unrhyw ymchwiliadau, a mynd i unrhyw gyfarfodydd a gynhelir.