Ymddiriedolwr Allanol a Is Gadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr
Yn dilyn graddio mewn Busnes a Marchnata o Fangor yn 2004, gwasanaethodd SJ fel Llywydd yr Undeb Athletau rhwng 2004-2005. Yn dilyn ymlaen o hynny, symudodd yn ôl i'w bro enedigol yng Ngogledd Swydd Efrog lle dechreuodd ar yrfa lwyddiannus fel Asiant Eiddo a Gosod.
Gan ddechrau ar waelod yr ysgol, cododd SJ yn gyflym trwy'r rhengoedd gan ymgymryd â swyddi fel Prisiwr, Rheolwr Cangen a Rheolwr Ardal cyn derbyn swydd ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn 2014.
Yn ei swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau a Gweithrediadau Cwsmeriaid gyda Gwerthwyr Tai Preston Baker yn Swydd Efrog, mae SJ yn arbenigo mewn cynllunio strategol ac ariannol yn ogystal â llunio ac addasu systemau a phrosesau sy'n cynnig profiadau a chanlyniadau gwych i gleientiaid.
Mae SJ yn falch iawn o fod yn ôl mewn swydd sy'n caniatáu iddi, unwaith eto, gefnogi'r gwaith rhagorol a wneir gan Undeb Bangor.