Swyddogion Sabothol

Mae gennym dîm o Swyddogion Sabothol etholedig ymroddedig (Sabbs), mae'r tîm Swyddogion Sabothol yn cael eu hethol gan fyfyrwyr, mewn pleidlais draws-gampws, i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol, gan gynnwys y byd academaidd, ac i sicrhau y gallwch gymryd rhan mewn chwaraeon, cymdeithasau a gwirfoddoli.

Mae'r Swyddogion Sabothol a ddewiswyd gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr yn cael effaith fawr ar y penderfyniadau a wnaed yn y Brifysgol ac maen nhw yn bresennol yn uwch bwyllgorau'r Brifysgol ac yn gweithio’n agos iawn hefo staff a myfyrwyr i gyflwyno newid.