Llywydd UMCB - Celt John

 

celt.john@undebbangor.com

 

Graddiodd Celt John o Brifysgol Bangor yn dilyn tair blynedd o astudio cwrs cydanrhydedd yn y Gymraeg a Cherddoriaeth. Penodwyd Celt yn Llywydd UMCB am y flwyddyn academaidd 2022/23 yn etholiadau mis Mawrth. Magwyd Celt yn Nolgellau, De Gwynedd, lle cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol y Gader, Dolgellau, cyn mynychu鈥檙 chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth. Symudodd i Fangor yn 2019 i ddechrau ei astudiaethau prifysgol ac yn ystod ei gyfnod ym Mangor, mae Celt wedi cyfrannu ac elwa o fod yn rhan o UMCB. Arweiniodd Celt g么r cymysg Aelwyd JMJ gan ennill sawl gwobr yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych 2022. Mae Celt yn frwd dros UMCB, yr undeb Cymraeg ym Mangor, ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod yn y gobaith o barhau 芒鈥檙 gwaith cadarnhaol y mae cyn-lywyddion UMCB wedi鈥檌 gyflawni. Mae Celt yn anelu at ddatblygu syniadau a fydd yn gadael argraff barhaol, megis rhannu r么l y cynrychiolydd chwaraeon ar bwyllgor UMCB yn ddwy r么l newydd; cynrychiolydd chwaraeon dynion a chynrychiolydd chwaraeon merched yn ogystal ag adnewyddu neuadd breswyl JMJ.

Blog 2023

Mae hi wedi bod yn bleser bod yn Lywydd ar Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor eleni. Teimlaf fy mod wedi medru rhoi ychydig yn 么l i鈥檙 gymuned sydd wedi fy siapio fel person ac oedolyn ifanc, a dyna yn y b么n yw鈥檙 rheswm pam wnes i redeg am y r么l yn y lle cyntaf. Teimlaf fod y swydd hon wedi fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith ehangach hefyd gan feithrin ynof nifer o sgiliau hanfodol y gweithle proffesiynol.  

 

Wrth i mi redeg am ail dymor hefyd roeddwn yn medru adlewyrchu ar y flwyddyn roeddwn eisoes wedi鈥檌 chael eleni. Edrychais n么l ar fy maniffesto ac ymgyrch o llynedd ac er nad wyf wedi medru cyflawni pob nod arno, roedd hyn yn amlygu鈥檙 angen i mi barhau am flwyddyn arall fel medraf ddatblygu鈥檙 syniadau/ymgyrchoedd yma rwyf bellach wedi dechrau arnynt e.e. ymgyrchu鈥檔 fewnol gyda鈥檙 brifysgol am adnewyddiadau i neuadd preswyl John Morris-Jones.  

 

Rwy鈥檔 ffodus iawn o sefyllfa cyfforddus safonau鈥檙 Gymraeg o fewn Undeb Bangor a鈥檙 Brifysgol yn gyffredinol eleni fel roedd modd i mi droi fy ngolwg tuag at elfennau allanol byddai鈥檔 cael effaith ar ein safonau a pholis茂au iaith Gymraeg. Gyda chymorth fy nghyd-weithwyr o fewn yr Undeb, roeddem wedi medru cyflwyno syniad polisi iaith Gymraeg a dwyieithrwydd ar gyfer cynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Cynhaliwyd y gynhadledd yma ym Mangor ar yr 22ain o Fawrth yn ein Hwb Gweithgareddau. Rwy鈥檔 falch o ddweud i'r syniad polisi a phob gwelliant gael ei basio. Hyfryd hefyd oedd clywed cefnogaeth bositif tuag at y polisi gan yr holl gynrychiolwyr myfyrwyr addysg uwch ac addysg pellach oedd yn bresennol yn y gynhadledd.  

 

Ond, er i mi gael blwyddyn wych, ni ddaeth hynny heb ei heriau. Rwy鈥檔 credu mai dau brif her rwyf wedi eu wynebu eleni yw ymgysylltu gyda myfyrwyr a darparu鈥檙 profiad gorau i fyfyrwyr trwy鈥檙 argyfwng costau byw. Mae鈥檙 ddau yn gysylltiedig a dweud y gwir. Mae nifer o ddigwyddiadau traddodiadol UMCB megis y Ddawns Ryng-golegol yn medru bod yn gostus. A gyda ninnau mewn argyfwng costau byw, mae myfyrwyr eleni wedi gorfod wynebu鈥檙 her anffodus o flaenoriaethu naill ai fforddio eu bywyd cymdeithasol neu fforddio eu lles a chostau dydd i ddydd h.y. siopa wythnosol a rhent. Oherwydd hyn, nid yw myfyrwyr wedi medru ymgysylltu gyda鈥檔 digwyddiadau cymdeithasol fel yr arfer, felly rydym wedi ceisio addasu rheiny fel eu bod yn fwy fforddiadwy. Enghraifft o hyn oedd pan daeth hi i鈥檔 noson Gloddest i ddathlu鈥檙 Nadolig, cynhaliais trafodaethau gyda lleoliadau lleol er mwyn sicrhau ein bod yn medru cael y dewis gorau o ran cost ac ansawdd ar gyfer cynnal y digwyddiad.

Rhaid dweud mai uchafbwynt y flwyddyn i mi oed yr Eisteddfod Ryng-golegol. Cynhaliwyd yr Eisteddfod eleni lawr yn Llanbedr Pont Steffan ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar benwythnos y 3ydd-4ydd o Fawrth. Rwy鈥檔 falch o ddweud ein bod wedi ennill yr Eisteddfod am yr 8fed mlynedd yn olynol , felly鈥檔 dod a鈥檙 darian ryng-golegol n么l i鈥檙 gogledd am flwyddyn arall. Does dim teimlad wedi dod yn agos yn ystod y flwyddyn hwn i鈥檙 un cefais pan godais y darian hwnnw wedi iddi gael ei chyhoeddi mai ni oedd yn fuddugol. Y foment hwnnw oedd yn gwneud yr holl waith caled trwy gydol y flwyddyn diwethaf yn werth hi.