Diddordeb bod yn gynrychiolydd cwrs?
Oes gennych chi ddiddordeb bod yn gynrychiolydd cwrs? Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y gwaith...
Beth mae cynrychiolwyr cwrs yn ei wneud?
Mae cynrychiolwyr cwrs yno i gynrychioli myfyrwyr ar eu cwrs. Maent yn siarad ac yn gwrando ar farn myfyrwyr am eu profiad academaidd, yn cymryd adborth i gyfarfodydd pwyllgorau staff-myfyrwyr ac yn gweithio gyda staff i ganfod atebion sydd o fudd i bob myfyriwr. Maent hefyd yn gweithio gyda ni, Undeb Bangor, ar brojectau ar draws y brifysgol ac yn dod ag unrhyw faterion mawr i'n sylw.
5 Rheswm i fod yn Gynrychiolydd Cwrs...
Dyma 5 rheswm dros gofrestru i fod yn gynrychiolydd cwrs eleni
1. Sicrhau newid ar eich cwrs
2. Bod yn rhan o gymuned
3. Gwella eich CV
4. Trefnu eich digwyddiadau eich hun
5. Cinio am ddim a noson wobrwyo!
Darllen mwy yma...
Beth yw’r disgwyliadau?
Dyma beth hoffem i chi ymrwymo iddo o leiaf os byddwch yn cofrestru:
- 1 sesiwn hyfforddi ym mis Hydref (2 awr).
- 2 gyfarfod pwyllgor staff myfyrwyr bob semester (tua awr yr un)
- 2 gyngor cynrychiolwyr cwrs gydag Undeb Bangor bob semester (awr yr un).
- Gwrando ar fyfyrwyr sy'n dod atoch gyda syniadau a materion yn ymwneud â'u cwrs.
- • Casglu adborth cyn cyfarfodydd ar brofiad academaidd myfyrwyr.
Mae gennym ni hefyd doreth o weithgareddau dewisol i’w datblygu, megis hyfforddiant ychwanegol a sesiynau cyflogadwyedd, cyllid i drefnu eich digwyddiadau eich hun ar gyfer eich carfan, yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn i bob cynrychiolydd ym mis Medi i'ch paratoi ar gyfer y swydd.
Hoffem annog cynrychiolwyr cwrs o gefndiroedd o bob math i gynrychioli corff amrywiol o fyfyrwyr. Rydym yn deall bod gan fyfyrwyr ymrwymiadau eraill ac amgylchiadau gwahanol, felly rydym yma i'ch cefnogi i gymryd rhan ym mha bynnag ffordd y gallwn, boed hynny'n darparu dewisiadau ar-lein i gymryd rhan, neu'r dewis i ddod â'ch gofalwr, partner neu blant i sesiynau a digwyddiadau.
Mae gennym ni hefyd aelod o staff ymroddedig i gefnogi cynrychiolwyr cwrs, felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, sefyllfa nad ydych yn gwybod sut i ymdrin â hi, neu os ydych yn cael trafferth gyda'r gwaith, gallwch ddod i siarad â ni a byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ateb.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am gefnogaeth neu hygyrchedd ar gyfer rôl y cynrychiolydd cwrs, anfonwch ebost atom gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar waelod y dudalen.
Byddwch yn gynrychiolydd cwrs!
Rydym yn recriwtio cynrychiolwyr cwrs trwy gydol y flwyddyn, felly os oes gennych chi ddiddordeb cynrychioli myfyrwyr, eisiau gwneud newidiadau i'ch cwrs neu ddim ond eisiau ymwneud mwy â'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, cofrestrwch isod!
Cysylltu â ni
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gynrychiolwyr cwrs? Eisiau cymryd rhan?
Mae croeso i chi anfon e-bost atom, naill ai i fewnflwch y cynrychiolwyr cwrs yn coursereps@undebbangor.com, neu drwy gysylltu â’n cydlynydd cynrychiolaeth yn uniongyrchol drwy e-bostio lucy.lloyd@undebbangor.com