Gair gan eich Llywydd

Shwmae!

Celt John ydw i, a fi ydy Llywydd UMCB 2023-24.

I'r mwyafrif ohonoch rwy'n wyneb cyfarwydd oherwydd i mi fod yn ddigon ffodus i fod yn lywydd arnoch llynedd hefyd. Serch hynny, mae’n dal i fod yn reit rhyfedd galw’n hun yn ‘Lywydd’ ar sefydliad sydd wedi bod mor ganolog i 'mywyd Prifysgol, ond mae hynny’n sicr yn fy ngwneud i'n gyffrous iawn i fod wrth y llyw unwaith eto eleni.

I’r rheiny ohonoch chi sydd ddim yn fy adnabod i eto, un o Ddolgellau ydw i (lle ma'r Starbucks yna ar ochr yr A470) a raddies i o Fangor yn 2022 gyda gradd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth. Pan oeddwn i'n fyfyriwr, digwyddiadau UMCB oedd fy mywyd cymdeithasol i raddau go helaeth, o’r is-gymdeithasau megis Aelwyd JMJ i gefnogi'r timau chwaraeon a mynychu digwyddiadau’r Cymric. I chi fel myfyrwyr newydd yma, cofiwch fod croeso i chi wneud faint y mynnoch chi gydag UMCB ac nad oes yn rhaid i chi ymrwymo i bopeth - canolbwyntiwch ar y pethau sy’n mynd a’ch bryd chi! Wedi dweud hynny, byddwn yn argymell pob un ohonoch i daflu eich hunain i'r bywyd myfyrwyr byrlymus sydd gennym ni yma ym Mangor trwy UMCB a’r Undeb er mwyn gwneud y mwyaf o’ch profiad yma.

Rhan allweddol o’m swydd i eleni fydd sicrhau fod hawliau’r myfyrwyr Cymraeg yn cael eu parchu’n academaidd, a bod eich llais yn cael ei glywed gan y Brifysgol ar unrhyw fater. Cofiwch felly fy mod i yma i'ch helpu a’ch cefnogi chi a 'mod i'n barod iawn i wneud hynny ym mhob ffordd, felly peidiwch ag oedi cyn dod i chwilio amdana’i am sgwrs. Gallwch ddod o hyd i mi yn fy swyddfa yn Undeb Bangor ar llawr 4 Pontio, fy swyddfa yn Neuadd JMJ bob dydd llun neu o amgylch y Brifysgol.

Croeso i Fangor felly, a mwynhewch bob eiliad!