Hanes UMCB

Ers sefydlu’r Brifysgol, roedd cymdeithas y ‘Cymric’ yn weithredol fel cymdeithas Gymraeg y Brifysgol gan gynnal digwyddiadau llenyddol, dadlau a chymdeithasol. Mewn hinsawdd gyfnewidiol gydag aflonyddwch cynyddol y Cymry yn y 70au, sylweddolodd aelodau o’r gymdeithas nad oedd ‘Y Cymric’ yn ddigon cryf i gynrychioli’r myfyrwyr Cymraeg, fel oedd y sefydliad ar y pryd. Yn sgil hynny, sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) fel undeb newydd ac annibynnol yn 1976 ond llwyddwyd cyn hynny i sicrhau Neuadd Gymraeg I breswylwyr y brifysgol, sef Neuadd John Morris-Jones. Mae gwaddol y Neuadd a’r Cymric yn bodoli hyd heddiw gyda Neuadd John Morris-Jones yn parhau i fod yn breswylfan i fyfyrwyr Cymraeg ac yn ganolbwynt i weithgareddau UMCB ac mae’r Cymric wedi parhau fel cymdeithas gymdeithasol, a’r pwyllgor hwnnw sy’n gyfrifol am galendr cymdeithasol ein cymuned.

Mae ein diolch a’n dyled erbyn heddiw i’r rhai a fu ynghlwm â sefydlu UMCB yn fawr iawn gan mai nhw yw’r rhai sy’n gyfrifol am osod y seiliau i UMCB, sydd heddiw’n Undeb fyrlymus, weithgar a brwdfrydig.