Pwyllgor UMCB

Caiff Pwyllgor UMCB eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr yn y Cyfarfod cyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ym Mis Mai yn barod at y Mis Medi canlynol. Maent yn cyfarfod yn gyson dros y flwyddyn i drafod materion llywodraethol a chymdeithasol UMCB, ac maent wedi eu rhannu yn Bwyllgor Gwaith a Phwyllgor Cymdeithasol.

Mae’r cynrychiolwyr yno i’ch cynrychioli chi, felly cofiwch gysylltu â’r un perthnasol am unrhyw fater, yn gŵyn neu’n ganmoliaeth!

Mae tri safle arall i’r Pwyllgor angen cael eu hethol tuag at ddechrau fis Hydref (dyddiad i’w gadarnhau) sef:

  • Cynrychiolydd y Flwyddyn Gyntaf
  • Cynrychiolydd Cartref
  • Swyddog RAG (Raising and Giving)

Mae’n gyfle gwych os oes genncyh chi syniadau am ffyrdd i ddatblygu UMCB ymhellach. Ewch amdani!