Kirsty Lewis, Cynrychiolydd Ôl-raddedig

Haia, Kirsty dw i! Dw i newydd raddio o’r brifysgol yn astudio Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau, ac yn bwriadu dilyn cwrs MA y flwyddyn nesaf yn ysgrifennu’n greadigol. O Abertawe yn wreiddiol, symudais i Fangor â’r bwriad o allu siarad mwy o Gymraeg! Fi fydd Cynrychiolydd Ôl-raddedig, a dw i’n awyddus iawn gweld OAPs UMCB yn parhau i gymdeithasu ac ymweld â’r Glôb yn gyson! Plîs cysylltwch os oes angen, yn fyfyriwr ôl-radd neu beidio!