Be ydi UMCB?

Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, UMCB sy'n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg a chymreig yn ystod eu cyfnod yma ym Mangor.

Dros y blynyddoedd mae perthynas UMCB gyda’r Undeb a’r Brifysgol wedi datblygu ac erbyn heddiw mae gan UMCB berthynas gadarn efo Undeb Bangor a’r Brifysgol sy’n sicrhau bod cynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn fwy effeithiol.

Rydym bellach yn rhan o Undeb Bangor gyda swyddog sabothol â statws llawn. Trwy hynny mae modd i ni ledaenu ein bwriad trwy’r brifysgol a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a hawliau myfyrwyr tu hwnt i ffenest UMCB. Mae hyn yn sicrhau fod pawb o fewn yr undeb yn gweld pwysigrwydd a budd yr iaith i'n myfyrwyr a staff. Fel rhan o’r Undeb, mae UMCB yn cael llais llawn yn y dweud pan fo materion sy’n effeithio ar yr holl fyfyrwyr yn dod i’r fei. Yn academaidd, ein rôl yw sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i fywyd academaidd y brifysgol ac rydym yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg, Canolfan Bedwyr a’r brifysgol i sicrhau hyn.

Yn ogystal, mae arnom ddyletswydd yn dilyn yr hawliau a amlinellwyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar ddechrau 2018 a byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r brifysgol i wireddu’r hawliau. Os bydd gennych unrhyw broblem, mae croeso i chi gysylltu gyda Chanolfan Bedwyr neu swyddfa UMCB. Ein rôl gymdeithasol yw cefnogi ein holl gymdeithasau. Mae UMCB yn cynnig llu o gymdeithasau gwahanol ar gyfer pawb sydd yn cael eu arwain gan ein myfyrwyr ni ein hun. Rydym eisiau i'r gymuned Gymraeg, sydd yn fyw ac iach yn y brifysgol yn parhau i dyfu ac rydym yn ymfalchïo yn ein cymuned. A honno’n un clos a chyfeillgar gydag ymdeimlad cryf o deulu yn perthyn i’r sefydliad. Bydd y wefan hon yn rhoi syniad i chi o strwythur UMCB a’r holl gyfleoedd sydd ynghlwm ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ac os oes gennych unrhyw ymholiad, mae’r holl fanylion cyswllt ar y wefan.