Erin Telford Jones, Cynrychiolydd y Drydedd Flwyddyn

Helo, Erin Telfrod Jones dw i a fi 'di cynrychiolydd y drydedd flwyddyn eleni! Dw i'n dod o bentre' bach Y Fali yn Sir Fรดn a dw i'n astudio Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau. Eleni, hoffaf sicrhau ein bod ni, y drydedd flwyddyn yn gwneud y mwyaf o bob cyfle cyn cyrraedd penllaw ein cyfnod ym Mangor. Bwriadaf trefnu crรดl trydedd flwyddyn, trip campio, diwrnod gweithgareddau a nosweithiau mwy anffurfiol fel cwis hwyl, bingo, neu ffilm a phitsa er mwyn cael saib o'n astudio. Dw i'n edrych ymlaen i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Bangor ac rwy'n barod i leisio fy marn mewn cyfarfodydd a phwyllgorau. Felly, os oes gan rhywun unrhyw broblemau, pryderon neu syniadau; dw i wastad yn barod i wrando. Edrych 'mlaen i weld pawb ym mis Medi!