Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr

  • 7

Disgrifiad

Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr 

Mae’r rhwydwaith hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n rhieni neu’n ofalwyr, iddynt gael cymdeithasu, rhedeg prosiectau ac ymgyrchoedd a chael mynediad at gyfleodd perthnasol. 

Beth yw Rhwydwaith?  

Grwpiau o fyfyrwyr, cymdeithasau neu brosiectau gwirfoddoli sydd â’r un diddordebau neu bethau y maent yn angerddol drostynt ydy Rhwydweithiau. Gallant hefyd gynnwys cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli perthnasol. Mae rhwydweithiau wedi cael eu sefydlu i gynnig cyfle i fyfyrwyr gymdeithasu â myfyrwyr o’r un bryd a nhw, yn ogystal â rhoi llwyfan iddynt drefnu ymgyrchoedd a phrosiectau, gyda chyllid a chefnogaeth gan yr Undeb Myfyrwyr. Rydym ni’n gobeithio cynnig cyfleoedd perthnasol i wahanol aelodau'r rhwydwaith hefyd, megis hyfforddiant, siaradwyr gwadd a digwyddiadau eraill. 

Beth yw Arweinydd Rhwydwaith? 

Mae gennym ni 15 swydd Arweinydd Rhwydwaith, mae’r swyddi taledig hyn yn rhedeg y rhwydweithiau yn ogystal â threfnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd gyda chefnogaeth yr Undeb Myfyrwyr. Maent yn derbyn bwrsariaeth, ac fe roddir £150 i bob arweinydd rhwydwaith bob semester, yn ogystal ag arian i gefnogi eu hymgyrchoedd a’u prosiectau. Mae cyfrifoldebau’r Arweinyddion Rhwydwaith yn cynnwys rhedeg prosiect/ymgyrch, cynnal cyfarfodydd rhwydwaith a mynychu’r fforwm myfyrwyr.