Gwirfoddoli
Dros y blynyddoedd, rydym wedi sefydlu 60+ o brojectau gwirfoddoli anhygoel y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddynt, fel Arweinwyr Project neu wirfoddolwyr. Mae mwy na’u hanner yn dal i ddigwydd a llwyddwyd i’w cynnal dros y pandemig, gan wneud gwaith gwych i gefnogi'r gymuned a'r amgylchedd lleol. Rydym yn falch o ddweud bod y rhan fwyaf o'n projectau yn cael eu harwain gan fyfyrwyr a chymerodd 500+ o fyfyrwyr ran mewn gweithgareddau gwirfoddoli'r llynedd! Rydym yn siŵr bod gennym rywbeth ar eich cyfer, gyda phrojectau amrywiol oddi fewn i 8 prif thema: yr amgylchedd, y gymuned, henoed, plant, chwaraeon, ymgyrchoedd a digwyddiadau, iechyd meddwl a chodi arian.
Dathlu 70 Mlynedd o Wirfoddoli
A wyddech chi fod myfyrwyr wedi bod yn gwirfoddoli yn Undeb Bangor ers dros 70 mlynedd erbyn hyn?! I ddathlu gwaith anhygoel ein gwirfoddolwyr a’r cysylltiadau mae ein myfyrwyr wedi’u meithrin ag unigolion a sefydliadau yn y gymuned leol dros y blynyddoedd, mi wnaethom drefnu digwyddiad gwirfoddoli arbennig ym mis Rhagfyr 2022! Cafodd aelodau o'r gymuned leol eu gwahodd am de prynhawn, cerddoriaeth ag i chwarae bingo. Mae prosiect Te Parti yn cael ei gynnal dwywaith y flwyddyn ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rhoi nol i'r gymuned.
Cwrs Preswyl
Gwnaethom ddathlu cyfraniadau ein Harweinwyr Project y llynedd gyda Chwrs Penwythnos Preswyl Gwirfoddoli rhad ac am ddim. Roedd yn gyfle i wirfoddolwyr gyd-ymwneud a chryfhau cysylltiadau â’i gilydd ar draws projectau, cynnig adborth am eu profiadau ac yn bwysicaf oll, mwynhau penwythnos llawn o weithgareddau fel caiacio, dringo ar draws clogwyni uwchben y môr ac abseilio!
Tybed allai hyn fod o fudd i chi fel Arweinydd Project? Dywedodd 88% o’r rhai a fu ar ein cwrs preswyl ym mis Mawrth 2022 ei fod wedi cynyddu’r ymdeimlad o undod a chymuned ymysg gwirfoddolwyr, a theimlai nifer tebyg fod y cwrs preswyl wedi eu helpu i feithrin sgiliau newydd neu wella ar rai presennol. Ymunwch â ni eleni a helpwch ni i adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn.
Bydd y digwyddiad hwn ar sail y cyntaf i'r felin a bydd Arweinwyr Project yn cael blaenoriaeth, felly cadwch lygad am ddatblygiadau a neilltuwch eich lle!
Wythnos Gwirfoddoli
Bob Blwyddyn, bydd ein projectau gwirfoddoli dan arweiniad myfyrwyr yn trefnu ac yn cynnal digwyddiadau ar draws wythnos gyntaf mis Chwefror fel rhan o’r Wythnos Gwirfoddoli. Y llynedd, bu myfyrwyr yn helpu i drefnu amrywiaeth o weithgareddau o adeiladu llochesau i ddraenogod gyda’r project Cyfeillion Draenogod, plannu coed afalau yn y Lloches Asynnod, cynnal sesiynau glanhau traethau a chynnig sesiynau cymorth cyntaf i fyfyrwyr. Mae’r wythnos yn gyfle gwych i Arweinwyr Project arddangos gwaith eu projectau ac i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl newydd!
Anfonwch e-bost at cyfleoedd@undebbangor.com os ydych yn rhan o broject gwirfoddoli a hoffai gymryd rhan neu cadwch olwg ar yr adran digwyddiadau ar wefan Undeb Bangor i gofrestru!