Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae Cangen Bangor o’r CCC wedi ei lleoli yng Nghanolfan Bedwyr, sydd yn Neuadd Dyfrdwy ar Ffordd y Coleg. Mae Lleucu Myrddin, Swyddog Cangen Bangor eleni, yn gweithio fel pwynt cyswllt i fyfyrwyr ac yn cefnogi gwaith y Coleg. Mae croeso i fyfyrwyr cysylltu â hi i gael sgwrs am y Coleg ac am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor. Yno hefyd mae stiwdio fideo-gynadledda’r CCC, sydd wedi’i datblygu’n bwrpasol ar gyfer dysgu modiwlau cyfrwng Cymraeg ar y cyd â phrifysgolion eraill.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â phob prifysgol yng Nghymru er mwyn sicrhau mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg. Mae Bangor yn chwarae rhan amlwg yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae 9 o bob 10 myfyriwr sy’n siarad Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn astudio rhywfaint o’u cwrs drwy’r Gymraeg.

 

Sut All y Coleg dy Helpu Di?

  • Mae’n ariannu darlithwyr a phynciau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion er mwyn datblygu cyrsiau cyfrwng Cymraeg•
  • Mae’n cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg•
  • Mae’n creu adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr er mwyn eu helpu gyda’u hastudiaethau•
  • Mae’n cynnig y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg, sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol.

 

Ymaelodi â’r Coleg

Mae ymaelodi’n hawdd - drwy’r wefan, ac am ddim! Bydd aelodau’n derbyn manylion am y cyfleoedd yn ymwneud ag astudio drwy’r Gymraeg, a’r diweddaraf am weithgareddau a datblygiadau’r Coleg. colegcymraeg.ac.uk/ymaelodi