Adroddiad Mewnwelediad Myfyrwyr - Profiad Myfyrwyr Cymraeg

Yn yr Adroddiad Mewnwelediad Myfyrwyr hwn, rydym yn canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan dynnu sylw at lwyddiannau ac arferion da yn ogystal â chyfleoedd i wella profiad myfyrwyr Cymraeg. Mae ‘myfyrwyr Cymraeg’ yn cynnwys siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr, yn ogystal â myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
 
Un o’r prif resymau dros ymgymryd â’r gwaith hwn oedd y bwlch yn ein gwybodaeth am brofiad myfyrwyr Cymraeg, yn enwedig yr agweddau an-academaidd. Er mwyn cael mewnwelediad, cynhaliwyd arolwg cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr Cymraeg. Mae’r mewnwelediad hwn yn ffurfio craidd yr adroddiad, gyda gwybodaeth ychwanegol o rai arolygon eraill ac adborth gan fyfyrwyr.