Cynrychiolydd Digidol

Oes gennych chi syniad gwych o ran sut i wella’ch ysgol? Neu efallai yr hoffech chi weld rhai gwelliannau i fodiwl penodol? Hyd yn oed os oes arnoch chi ond eisiau dweud wrthym ni pa mor anhygoel yw un o'ch darlithwyr, hoffem glywed hynny! Cliciwch y botwm isod i gyflwyno’ch adborth am eich cwrs, a gall y cynrychiolwyr ymchwilio i’r mater a gweld beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod eich profiad academaidd y gorau y gall fod!

Feedback with Digital Rep

Sut i ddefnyddio’r cynrychiolydd digidol

1. Yn gyntaf, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch ID myfyriwr.

2. Ewch i'r tab ‘cynrychiolaeth’ ar frig y dudalen, yna cliciwch ar ‘adborth’

3. Yma gallwch weld adborth presennol gan fyfyrwyr. Cliciwch ar bob teitl i weld mwy o wybodaeth.

4. Yma, gallwch weld beth mae'r postiwr wedi'i ysgrifennu'n llawn. Os ydych chi'n cytuno â'r hyn maen nhw'n ei ddweud ac eisiau i'r newid hwn gael ei weithredu, cliciwch ‘hoffi’. Os ydych yn anghytuno, gallwch nodi eich bod yn anghytuno. Gallwch hefyd adael sylwadau a gweld sylwadau myfyrwyr eraill ar waelod y dudalen. 

5. Gallwch hefyd weld adborth wedi'i ddatrys gan ddefnyddio'r tab ar y brig. 

6. I ychwanegu eich adborth eich hun, ewch i ochr chwith y dudalen a dewis o blith ‘syniad newydd’, ‘pryder newydd’ neu ‘ganmoliaeth newydd’. Gall syniad newydd fod yn unrhyw beth yr hoffech ei weld ar eich cwrs neu yn eich ysgol. Os oes gennych chi broblem y credwch sydd angen ei datrys, cliciwch ar ‘pryder newydd’. Neu os hoffech chi roi adborth ar rywbeth rydych chi'n meddwl bod eich ysgol yn ei wneud yn dda iawn, neu os hoffech chi gydnabod rhywfaint o addysgu gwych, cliciwch ‘canmoliaeth newydd’.  

7. Bydd hyn yn mynd â chi i sgrin lle gallwch chi ychwanegu teitl a disgrifiad. Ceisiwch gynnwys cymaint o fanylion â phosibl, ac awgrymu ateb os yn bosibl i unrhyw bryderon. Ymateliwch hefyd rhag enwi unrhyw staff neu fyfyrwyr yn eich adborth. Os oes gennych chi broblem gyda modiwl penodol er enghraifft, gallwch ddefnyddio teitl neu god y modiwl.  

8. Yn olaf, ticiwch y blwch hwn yma os hoffech gyflwyno'ch adborth yn ddienw, a chliciwch ar ‘cyflwyno’.  

9. Unwaith y bydd 5 myfyriwr arall yn hoffi eich sylw, caiff ei anfon at eich cynrychiolydd cwrs i weithredu yn ei gylch. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod cytundeb ynghylch y mater yr ydych chi wedi ei godi. Bydd eich cynrychiolydd cwrs yn gallu ymateb i'ch adborth i roi gwybod i chi beth mae'n ei wneud am eich adborth, a chanlyniad unrhyw gamau y mae wedi'u cymryd.