Wythnos Groeso Undeb Bangor

Croeso i Fangor! Ni yw Undeb Bangor a ni yw eich Undeb Myfyrwyr.

Paratowch ar gyfer antur drydanol, gyda tair blynedd gyffroes ym Mangor ar fin cychwyn. Tra bod eich addysg yn hollbwysig, mae profiad myfyriwr sydd tu hwnt i'ch disgwyliadau wrth law. Mae Undeb Bangor yn rhan hanfodol o'ch taith tuag at ragoriaeth. Gyda ni wrth eich ochr, byddwch yn datgloi byd o gyfleoedd anhygoel, yn creu bondiau na ellir eu torri ac yn goresgyn yr holl rwystrau a ddaw o'ch blaenau. Rydym yn dechrau'r semester gyda'r Wythnos Groeso ac rydym yn cynnal rhai o ddigwyddiadau mwyaf yr wythnos. Paratowch i gael eich syfrdanu - dim ond blas yw hwn o'r cyfarfyddiadau rhyfeddol sy'n eich disgwyl! 

Rydym yn dechrau’r semester gyda’r Wythnos Groeso ac rydym yn cynnal rhai o ddigwyddiadau mwyaf yr wythnos, dyma flas o’r hyn sydd gennym i’w gynnig.

Eisiau cyflwyniad cyflym i'r hyn rydyn ni'n ei wneud ym Mangor a beth allwn ni gynnig i chi? Cliciwch yma!

Pryd? Dydd Mercher a Dydd Iau 20fed a 21ain o Fedi 2023

Pa amser? 11am - 4pm

Ar gyfer pwy? Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer pob un myfyriwr. Methu bod mewn torfeydd mawr neu leoliadau swnllyd am unrhyw reswm, ymunwch â ni ar gyfer yr Awr Dawel.

Beth yw'r Awr Dawel? Rydym yn sylweddoli nad yw'n bosib i bawb fod mewn mannau prysur ac uchel felly mae gennym ni awr sy'n dawelach gyda llai o draffig. Ymunwch a ni rhwng 10am a 11am ar y ddau ddiwrnod am awr dawel. 

Ble? Canolfan Brailsford; dyma'r gampfa ar Safle Ffriddoedd

Beth ydi o? Serendipity yw ein Ffair y Glas ac fe'i cynhelir gennym ni, Undeb Bangor, eich undeb myfyrwyr. Serendipity yw’r cyfle perffaith i chi, ein myfyrwyr, i gwrdd â’n clybiau chwaraeon, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli i ddewis pa rai yr hoffech fod yn rhan ohonynt. Rydym yn croesawu amrywiaeth o adrannau prifysgol i’n ffair, gan gynnwys ein Gwasanaethau Myfyrwyr a Gwasanaethau Campws. Mae’r gwasanaethau’n ymuno â ni er mwyn i chi ddysgu mwy am beth arall, heblaw addysg o’r radd flaenaf, sydd gan y Brifysgol i’w gynnig. Wrth gwrs, mae ffeiriau'r glas yn enwog am nwyddau am ddim! Ia, mae gennym ni lu o gwmnïau'n mynychu ac maen nhw eisiau rhoi pethau am ddim i chi, fydd yn eich helpu chi trwy'r flwyddyn nesaf ac yn eich helpu i ymgartrefu yn eich cartref newydd.

Pam Serendipity? Mae 'Serendipity' yn cyfeirio at ddarganfyddiadau ffodus ac annisgwyl neu syrpreisys pleserus sy'n digwydd ar hap gan arwain yn aml at ganlyniadau hyfryd a serendipaidd.

Sgwrs ac Ymlacio

Pryd? Dydd Sadwrn a Dydd Sul 16eg a 17eg o Fedi 2023

Ble? Hyb Gweithgareddau Undeb Bangor; uwchben Bar Uno, Safle Ffriddoedd

Faint o'r gloch? 7.00pm - 10.00pm

Ar gyfer pwy? Gall unrhyw un ddod i'n digwyddiad!

Beth ydi o? Tafarndai a chlybiau prysur ddim yn apelio i chi? Dal eisiau cymdeithasu a chwrdd â phobl o'r un anian? Fydd ein digwyddiad Ymlacio a Sgwrsio yn berffaith i chi. Byddwn yn gwahodd rhai o'n cymdeithasau i ymuno â rhai o'u gweithgareddau fel gemau fideo, gemau bwrdd, gweithgareddau crefft neu hyd yn oed sgwrsio â rhai o’n hieithyddion mewn iaith wahanol.