5 rheswm i fod yn Gynrychiolydd Cwrs...

Dydd Gwener 30-09-2022 - 16:12

Mae'n ddechrau blwyddyn newydd felly rydym yn recriwtio Cynrychiolwyr Cwrs unwaith eto.  

Mae cynrychiolwyr cwrs yn casglu adborth gan fyfyrwyr ac yn cynrychioli eu cyd-fyfyrwyr yng nghyswllt materion academaidd. Byddant yn gweithio gyda staff yn eu hysgolion a chydag Undeb y Myfyrwyr i sicrhau newidiadau cadarnhaol, ac i wella profiad addysgol myfyrwyr Bangor yn gyffredinol.  

  

Dyma 5 rheswm dros gofrestru i fod yn gynrychiolydd cwrs eleni.  

  

  1. Sicrhau newid ar eich cwrs 

Oes gennych syniadau da ar gyfer eich cwrs, neu ydych chi wedi gweld rhywbeth sydd angen ei wella?  

Byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda chynrychiolwyr cwrs eraill ac aelodau staff yn eich ysgol lle gallwch godi unrhyw broblemau, mynegi eich barn a’ch syniadau, a sicrhau’r newidiadau yr hoffech eu gweld. Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio gydag Undeb Bangor ar ymgyrchoedd mwy sy'n effeithio ar y profiad academaidd ehangach.  

Mae enghreifftiau o newidiadau blaenorol yn cynnwys modiwlau dewisol newydd, teithiau tramor, newidiadau i derfynau amser, mwy o recordiadau o ddarlithoedd, ac ystafelloedd cyffredin i israddedigion, i nodi ambell un. 

  

  1. Bod yn rhan o gymuned 

Mae dros 300 o gynrychiolwyr cwrs ym Mangor! Yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r cynrychiolwyr cwrs eraill yn eich ysgol, byddwn yn cynnig amryw o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn i chi ddod i nabod cynrychiolwyr cwrs eraill trwy gyfrwng diwrnodau adeiladu tîm, digwyddiadau cymdeithasol a'n Cynhadledd Cynrychiolwyr Cwrs! 

  

  1. Gwella eich CV 

Fel cynrychiolydd cwrs byddwch yn meithrin nifer o sgiliau pwysig, trwy siarad â myfyrwyr, mynd i gyfarfodydd a gweithio gyda chynrychiolwyr cwrs eraill.  

Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddi a sgiliau ar gyfer ein holl gynrychiolwyr cwrs er mwyn ichi ddatblygu’r sgiliau hyn ymhellach, yn ogystal â sesiynau cyflogadwyedd ichi allu gwneud y gorau o'ch profiad yn eich CV. 

  

  1. Trefnu eich digwyddiadau eich hun 

Gallwn ddarparu arian a chefnogaeth un-i-un ichi drefnu digwyddiadau i fyfyrwyr ar eich cwrs.  

Mae cynrychiolwyr cwrs y gorffennol wedi trefnu popeth o nosweithiau ffilm i bartïon pizza a dawnsfeydd Nadolig… gallwch fod mor greadigol ag y dymunwch! 
 
 

  1. Cinio am ddim a noson wobrwyo! 

Byddwn yn cynnal noson wobrwyo bob blwyddyn i ddathlu gwaith anhygoel ein cynrychiolwyr cwrs ac aelodau staff! Rhoddir gwahoddiad i bob cynrychiolydd cwrs ddod a mwynhau cinio tri chwrs am ddim.  

Yn ogystal â rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i bob cynrychiolydd cwrs trwy gyflwyno tystysgrif iddynt, mae 5 gwobr cynrychiolydd cwrs i'w hennill, gan gynnwys un wobr o £1000!  

  

Os yw hyn i gyd yn swnio'n werth-chweil i chi, ewch i www.undebbangor.com/coursereps i gofrestru ar unwaith!   

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...