Neuaddau Prifysgol

Llun o Neuaddau ar Safle Ffriddoedd

Cyn gwyliau'r Nadolig, byddwch wedi derbyn y datganiad isod trwy e-bost:

 

“Yng ngoleuni'r cyngor diweddar gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â symud i addysgu ar-lein yn gynnar ym mis Rhagfyr, a'r cyngor sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd ynglŷn â dychwelyd ym mis Ionawr, mae tîm Gweithredu'r Brifysgol, gan weithio gydag Undeb y Myfyrwyr, wedi cytuno i gynnig gostyngiad o 10% i fyfyrwyr oddi ar eu ffioedd neuadd ar gyfer y flwyddyn gyfredol, fel arwydd o ewyllys da.

Bydd hyn gyfwerth â rhent pedair wythnos, neu fwy yn dibynnu ar hyd eich contract, a bydd ar gael i bob myfyriwr sy'n byw mewn neuadd ac nid oes angen i chi optio i mewn nac optio allan i'w dderbyn. Teimlwn fod hwn yn ddull syml a theg. 

 

Bydd y gostyngiad o 10% yn cael ei weithredu ar gyfer pob preswyliwr sydd â chontract o 40 wythnos neu fwy ac sy'n cynnwys mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021.  Bydd y gostyngiad o 10% yn cael ei weithredu'n awtomatig i bob contract preswyl ym Mangor a Wrecsam

 

Ar gyfer y rhan fwyaf o breswylwyr, bydd y gostyngiad o 10% yn cael ei roi yn erbyn taliadau'r dyfodol.  Bydd cynlluniau talu cyfredol yn cael eu diwygio i adlewyrchu'r gostyngiad ym mhris eich ystafell, ac addasir y taliadau am weddill y flwyddyn. Ar gyfer lleiafrif bach iawn o fyfyrwyr, sydd wedi talu ymlaen llaw am y flwyddyn gyfan, byddwch chi yn derbyn ad-daliad.

 

Bydd y gostyngiad yn cael ei brosesu yn y flwyddyn newydd, a bydd yn digwydd yn awtomatig, felly nid oes angen i chi wneud cais i Swyddfa'r Neuaddau. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut y bydd y gostyngiad o 10% yn cael ei weithredu, cysylltwch â Swyddfa'r Neuaddau - neuaddau@bangor.ac.uk

 

Mae hyn yn newyddion gwych bod y Brifysgol yn gwrando ar bryderon myfyrwyr, ac yn deg tuag at fyfyrwyr sy'n byw yn neuaddau prifysgol. Fodd bynnag, yn dilyn arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd y Brifysgol na fyddai dysgu cyfunol yn ail-gychwyn tan 8fed o Chwefror ac nad oedd presenoldeb myfyrwyr ar y campws yn orfodol tan hynny. Mae hyn yn arwain at neuaddau preswyl o bosibl yn wag am 8 ½ wythnos.

 

O ganlyniad i hyn, rydym wedi cyflwyno'r canlynol i'r Brifysgol:

 

Nid yw'r Undeb yn credu y dylid codi tâl ar unrhyw fyfyriwr am lety nad yw / na all ei ddefnyddio o ganlyniad i oblygiadau Covid-19.

  • Addasu ffi ad-daliad Neuaddau Prifysgol presennol i godi i 25% yn unol â chanllawiau newydd gan y Brifysgol / Llywodraeth ar ôl dychwelyd, yn ogystal â gwneud iawn am wasanaethau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd i fyfyrwyr eu defnyddio. Rydym hefyd yn lobio cwmniau llety preifat gyda’r un gofynion i gael eu cynnig i fyfyrwyr.
  • Rhyddhau pob myfyriwr sy'n methu dychwelyd i'r Brifysgol neu'r rheini sy'n dymuno symud allan o’u contract heb gosb.

Credwn fod y gofynion hyn yn deg i bawb sydd wedi gweld cyfyngiadau Covid-19 yn cyfyngu ar eu gallu i fod ar y campws a derbyn maint llawn yr hyn y maent yn talu amdano. Rydym hefyd yn deall efallai na fydd rhai myfyrwyr yn dymuno dychwelyd i Fangor oherwydd gwahanol resymau, felly rydym yn gofyn y dylid caniatáu i fyfyrwyr sy'n dymuno cael eu rhyddhau o'u contractau yn gynnar wneud hynny heb risg o gael eu cosbi.

Gobeithio y bydd mwy o fanylion yn dilyn, wrth i ni barhau i weithio ar eich rhan i sicrhau tegwch a thosturi ar draws y Brifysgol.