Argymhellion Dim Anfantais neu Rhwyd Ddiogelwch

Cyflwyniad 

Mae’n amlwg bod eleni wedi bod yn ddigynsail i fyfyrwyr a staff. Mae cyfyngiadau covid ac ailstrwythuro'r Brifysgol wedi gadael myfyrwyr dan straen ac yn ansicr ynghylch beth fydd yn digwydd i'w hastudiaethau a'u graddau yn ystod y misoedd canlynol.

Rydym yn ymwybodol bod gan y Brifysgol system amgylchiadau arbennig ar hyn o bryd i liniaru effeithiau Covid. Fodd bynnag, daeth yn amlwg nad yw'r system hon ar hyn o bryd yn ysbrydoli hyder ymysg y myfyrwyr. Ar ben hynny, efallai y bydd gan fyfyrwyr a staff syniadau gwahanol ar yr hyn sy'n cael ei ystyried yn amgylchiad lliniarol Covid. Mae’r system hon hefyd yn caniatáu posibilrwydd o wrthod amgylchiadau lliniarol myfyrwyr, a fyddai’n peri gofid i fyfyriwr yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd. Mae’r ffurflen amgylchiadau arbennig Covid hefyd yn arwain at posibilrwydd o ‘orlwytho gweinyddol’ i’r Brifysgol os bydd llawer o fyfyrwyr yn cyflwyno ceisiadau.

Cynnig o Bolisi Dim Anfantais neu Rhwyd Ddiogelwch i Fyfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig bod y Brifysgol yn gweithredu polisi rhwyd ddiogelwch neud dim anfantais rhwyd ddiogelwch ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Rydym yn deall bod y Brifysgol wedi penderfynu atal y rheoliadau force majeure blaenorol, gan fod mwy o amser i baratoi ar gyfer gweithredu dysgu cyfunol. Fodd bynnag, rydym ni fel yn Undeb yn credu, oherwydd amrywiol amgylchiadau, bod myfyrwyr yn profi profiad academaidd llawer gwaeth nag arfer ac y dylai'r Brifysgol greu polisi i adlewyrchu hyn i gynnig haen o ddiogelwch.

Mae'r flwyddyn academaidd hon wedi bod yn hynod heriol i lawer o fyfyrwyr. Er enghraifft, mae llawer o fyfyrwyr sy'n rhieni yn ei chael hi'n anodd cwblhau aseiniadau ac arholiadau ar hyn o bryd, ac yn ystyried gohirio ei lle, oherwydd bod ysgolion ledled y wlad wedi cau. Yn ogystal, mae cyfran fawr o fyfyrwyr yn teimlo'n unig, yn ynysig, ac yn brin o hyder y byddant yn perfformio ar eu gorau yn eu hasesiadau.

Rydym yn deall nad yw'r polisi dim anfantais a roddwyd ar waith y llynedd bellach yn addas gan na fyddai'n berthnasol i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, ac nid ydym yn credu y byddai'n deg barnu myfyrwyr ail flwyddyn ar sail eu graddau ar gyfer semester cyntaf eu blwyddyn gyntaf. Credwn ei bod yn bosibl creu polisi arloesol yn seiliedig ar arfer gorau'r sector ar hyn o bryd.

Beth Mae Myfyrwyr Eisiau

I gefnogi’r uchod mae deiseb myfyrwyr ar y pwnc yma wedi’i chyflwyno i Undeb Bangor ac wedi cyrraedd 450 o lofnodion. Mae'n cynnwys y testun canlynol:

“Fel myfyrwyr mae angen mwy o gefnogaeth a rhwyd ddiogelwch arnom mewn ymateb i bandemig Covid-19.

Mae'r sefyllfa bresennol wedi cael effaith enfawr ar fyfyrwyr, ac wedi effeithio ar ein hastudiaethau a'n hiechyd meddwl - dylid ystyried hyn wrth farcio ein gwaith.

Erbyn hyn rydym wedi profi bron i flwyddyn o ddysgu ar-lein bron yn gyfan gwbl a dylem fod â hawl i rwyd ddiogelwch gan y bu ansicrwydd parhaus a phwysau cynyddol, ac mae llawer o fyfyrwyr wedi bod yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.”

Mae hyn yn dangos ymhellach yr angen i'r Brifysgol weithredu.

Ein Argymhellion

Mae llawer o Brifysgolion eraill eisoes wedi dechrau gweithredu polisïau Dim Anfantais neu Rwyd Diogelwch i liniaru effeithiau'r pandemig eleni. Felly, rydym yn annog Prifysgol Bangor i wneud yr un peth a sicrhau bod hyn yn cael ei gyfleu'n glir i fyfyrwyr.

Gan dynnu ar rywfaint o’r arfer gorau a'n barn ein hunain, credwn y dylai unrhyw bolisi Dim Anfantais  neu Rwyd Diogelwch Prifysgol Bangor gynnwys y canlynol:

•             Adnabod modiwlau lle mae marciau'n anghyson ac yn is o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mewn unrhyw fodiwlau o’r yr effeithir arnynt, os yw marc myfyriwr yn wael o'i gymharu â modiwlau heb eu heffeithio, dylai'r gallu fod i godi'r marc. Dylid dim ond fod yn gallu codi marciau - nid eu gostwng.

•             Ystyried caniatáu i raddau neu ddosbarthiadau cyffredinol fod yn seiliedig ar gyfran benodol o gredydau gorau myfyriwr.

•             Ymlacio ymhellach a hyrwyddo rheolau ynghylch hunan-ardystio amgylchiadau arbennig neu liniaru. Er enghraifft, ehangu'r rhesymau, caniatáu amlder cynyddol a pheidio â bod angen prawf ysgrifenedig.

•             Ymlacio rheolau ynghylch capio ail-gyflwyniadau.

•             Ymlacio'r rheolau mewn perthynas â gwrthdaro ffiniol cadarnhaol gan uchafu’r dosbarthiadau a graddau.

•             Symudiad i gyfnod o 24 awr i fyfyrwyr gwblhau arholiadau ar draws o fewn - hyd yn oed os o fewn y ffenestr 24 awr hon, gosodir terfyn amser ar gyfer yr arholiad go iawn.