Cefnogaeth Ariannol

Rydym yn deall sut mae COVID-19 wedi rhoi holl brofiad prifysgol myfyrwyr dan anfantais, ac rydym yn sylweddoli bod llawer o fyfyrwyr yn profi sefyllfaoedd anodd o galedi ac anawsterau ariannol. Efallai y bydd myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r sefyllfa Coronafirws bresennol yn gallu cael gafael ar gymorth ariannol o'r Gronfa Caledi. I wneud cais, cysylltwch รข'r Uned Cymorth Arian i gael ffurflen gais ar moneysupport@bangor.ac.uk. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y tudalennau hyn am sut y gallech elwa o arian ychwanegol a ddarperir i Brifysgolion Cymru gan Lywodraeth Cymru i helpu myfyrwyr sy'n profi unrhyw fath o anawsterau ariannol oherwydd cyfyngiadau Covid-19.