Llety

Rydym yn gwybod bod llawer o fyfyrwyr wedi profi problemau gyda'u llety yn ystod y pandemig. Mae teimlo'n ddiogel ac yn hapus â'ch sefyllfa dai hyd yn oed yn bwysicach pan dreulir cymaint o'ch amser gartref eleni. Rydym yn ymwybodol y gallai llawer o fyfyrwyr fod yn ei chael hi'n anodd talu'r rhent neu gael eu clymu i gontractau am lety na fydd eu hangen arnoch o bosibl,  rydym yma wedi ceisio darparu rhywfaint o gyngor a fydd, gobeithio, yn mynd i'r afael â rhai o'r materion y gallech fod yn eu hwynebu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau i Neuaddau'r Brifysgol cysylltwch gyda neuaddau@bangor.ac.uk, os oes angen cyngor a chefnogaeth arnoch gyda materion tai penodol a chanllawiau contract ac ati, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Swyddfa Dai'r Brifysgol studenthousing@bangor.ac.uk.