Cynllun Cyfaill Lles
Cynllun Cyfaill Lles - Cyswwlt@Bangor A fyddai cael cyfaill lles o fodd i chi? Gall Cyswllt@Bangor rhoi chi mewn cysylltiad a myfyrwyr sydd wedi cael eu dewis yn ofalus i fod yn rhan o’r cynllun, i roi cymorth i chi. Bydd y cyfaill lles yn eich cefnogi gyda agweddau cymdeithasol o fywyd prifysgol yn ogystal a bod yn ffrind.
Os ydych yn teimlo a gallwch elwa o gael cyfaill lles neu gwirfoddoli gyda’r cynllun, cysylltwch a Gareth Williams: gareth.williams@undebbangor.com
Hyfforddiant Gwydnwch Emosiynol
Gwydnwch emosiynol yw eich gallu i gadw'ch meddwl yn ddigynnwrf mewn sefyllfa neu argyfyngau llawn straen ac mae'n amddiffyniad mawr yn erbyn iselder clinigol, gorbryder a materion iechyd meddwl cyffredin eraill. Rydym wedi trefnu hyfforddiant gwytnwch emosiynol gydag Two Roads Charity, i helpu i roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i helpu i ddelio â'r hyn y mae bywyd yn ei daflu atoch.
Gallwch ffeindio mwy o wybodaeth a cofrestru yma.
Sesiynau Galw Mewn Cyswllt@Bangor
Cofiwch y gallwch chi ymuno â'n trafodaeth grŵp ar-lein gyda'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl a Cyswllt@Bangor bob prynhawn Mercher am 1pm i siarad am bob agwedd ar lesiant. Nid ydych o dan unrhyw bwysau i siarad; gallwch wrando, a gallwch anfon neges breifat at un o'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl i ofyn am apwyntiad yn y sesiwn galw heibio sy'n dilyn. Er mwyn ymuno efo’r sesiynau yma cysylltwch gyda svbconnect@undebbangor.com
Yna mae gan y Cynghorwyr Iechyd Meddwl Sesiynau Galw Mewn rhwng 2pm a 3.30pm bob prynhawn Mercher. E-bostiwch mentalhealthadviser@bangor.ac.uk neu gallwch ofyn am apwyntiad yn nhrafodaeth grŵp Cyswllt@Bangor.
Prosiect Clicio a Chasglu
Mae'n prosiect ‘Cliciwch a Chasglu’ ar gyfer myfyrwyr sy’n ynysu oherwydd pandemig Coronafirws yn ôl!
Gall myfyrwyr gwblhau eu harcheb (ar gyfer siop Morrisons Bangor) trwy clicio yma.
Rhaid rhoi eich archeb i mewn o leiaf 24 awr cyn ei ddanfon, lle gallwch wedyn e-bostio Gareth.williams@undebbangor.com i wirfoddolwr gasglu eich archeb a'i ddanfon i brif fynedfa eich neuaddau.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr sy'n hunan-ynysu yn unig, ac mae ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 10: 00-16: 00.
Ymwybyddiaeth Ofalgar - Sesiynau galw mewn i Fyfyrwyr Prifysgol Bangor drwy Zoom
Mae'r sesiynau'n addas i ddechreuwyr llwyr ac i'r rhai hynny sydd â pheth profiad o Ymwybyddiaeth Ofalgar neu ffyrdd eraill o fyfyrio.
Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfnod o fyfyrdod o dan arweiniad, ychydig funudau o adfyfyrio, gydag amser ar gyfer cwestiynau ar y diwedd. Addysgir amrywiaeth o arferion gwahanol yn ystod y sesiynau.
Pob dydd Ionawr yn ystod y tymor: 4.00-4.50yh (Yn cychwyn dydd Ionawr, 13eg Ionawr 2021)
Am wybodaeth pellach a’r manylion mewngofnodi, cysylltwch a ican@bangor.ac.uk
TheraPanad
Ar hyn o bryd mae’n anodd dod o hyd i gymhelliant. Beth am i chi ymuno gyda ni bob bore dydd llyn o 10-12. Bydd hyn yn gyfle i chi siarad am unrhyw bryderon neu broblemau sy'n eich poeni, a hefyd i gymryd rhan mewn ioga meddal gyda Nia.
10:00 fydd hyn yn gyfle i siarad am bryderon a chyfle i weld wynebau cyfeillgar.
10:30 cyfle i ymuno mewn ioga meddal.
11:30 cyfle pellach i chi adlewyrchu a siarad.
I archebu lle e-bostiwch: Spm18rbf@bangor.ac.uk
Ioga am Ddim
Ioga byw am ddim bob dydd Gwener am 6pm, trwy zoom neu dal i fyny unrhyw bryd ar Youtube.
E-bostiwch iogadwyni@gmail.com i gofrestru!
'Sgwrs amser cinio i rieni / gofalwyr
Cyfarfod â myfyrwyr eraill sy'n rhieni neu'n ofalwyr am sgwrs anffurfiol dros ginio.
Dydd Gwener - 12-1pm o'r 29ain o Ionawr
E-bostiwch Delyth (Cynghorydd Myfyrwyr i rieni a gofalwyr) i gael mwy o wybodaeth - dlj18kdd@bangor.ac.uk