Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu cefnogaeth i fyfyrwyr ar ystod o faterion sy'n ymwneud â bywyd fel myfyriwr. O reoli eich cyllid i ddod o hyd i swydd i raddedigion, mae eu gwasanaethau yno i'ch helpu chi i wneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol. - Cymorth i Fyfyrwyr | Gwasanaethau Myfyrwyr | Prifysgol Bangor
I drefnu apwyntiad gyda rhai o’r gwasanaethau yma ffoniwch neu e-bostiwch y gwasanaeth perthnasol:
• Swyddfa Tai Myfyrwyr - taimyfyrwyr@bangor.ac.uk 01248 38 2034/2883
• Cymorth Ariannol - cymorthariannol@bangor.ac.uk 01248 38 3566/3637
• Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - cynhwysol@bangor.ac.uk 01248 388021
• Cymryd egwyl o’ch astudiaethau - cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk 01248 382072
Os nad ydych yn sicr pa wasanaeth yr ydych angen plîs e-bostiwch cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk
• Gall y Tîm Cefnogi Myfyrwyr eich helpu gyda chyngor ariannol, yn cynnwys Cronfeydd Caledi a myfyrwyr yn gadael/gohirio eu hastudiaethau.
• Gall y Swyddfa Tai Myfyrwyr eich helpu i gael hyd i lety yn y Sector Rhentu Preifat.
• Mae'r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr a staff ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chynwysoldeb.