Mae UNDOD Bangor yn grŵp cymdeithasol diffwdan ar gyfer pobl sy’n cael eu heffeithio arnynt gan anawsterau cyfathrebu cymdeithasol, Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig a phrofiadau tebyg. Rydym yn grŵp bach a chyfeillgar o fyfyrwyr sydd yma i’ch cefnogi ac yn dangos parch at wahaniaethau ein gilydd.
Byddwn yn gwneud gwahanol weithgareddau y mae’r aelodau'n eu mwynhau ac yn gwneud cais amdanynt, felly gallwch gynnig syniadau newydd i ni roi cynnig arnynt.
Llynedd roedd ein cyfarfodydd yn canolbwyntio'n bennaf ar sgwrsio a rhannu profiadau a safbwyntiau am faterion sy'n effeithio ar ein cymuned. Awgrymir yr holl bynciau gan yr aelodau ac maent i gyd yn cael eu gwerthfawrogi'n gydradd. Mae'r pynciau'n amrywio o fywyd prifysgol i'r ffilm ddiweddaraf yn y sinema!
Nid oes unrhyw bwysau arnoch o ran sut i gyfrannu i'r gymdeithas, p'un a bo'n well gennych wrando, siarad neu gymysgedd o'r ddau; rydym eisiau i bawb deimlo'n gysurus.
Mae ein cymdeithas yn dilyn cyfarwyddiadau ein haelodau, felly mae croeso i chi gysylltu neu wneud awgrymiadau am y fath o beth yr hoffech ein gweld yn eu gwneud, neu sut y byddwn yn cyflwyno pethau.
Dewch draw i un o'n nosweithiau cymdeithasol i gwrdd â'n haelodau a chael sgwrs. Mae croeso i aelodau newydd drwy gydol y flwyddyn heb unrhyw ymrwymiad i ddod i bob digwyddiad. Gallwch ddod i gynifer neu gyn lleied o gyfarfodydd ag y dymunwch