Ni yw Clwb Eira Bangor. Rydym yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer sgiwyr ac eirafyrddwyr o bob lefel gallu, o ddechreuwr llwyr i gystadleuwyr brwd.
Byddwn yn cystadlu ar lethrau sych a llethrau dan do yn erbyn prifysgolion eraill, mewn digwyddiadau rasio a dull rhydd trwy gydol y flwyddyn.
Er bod cystadlu yn bwysig iawn i ni, mae'r un mor bwysig, os nad yn bwysicach i ni, i roi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn chwaraeon eira. Ein nod fel clwb yw rhoi cymhorthdal helaeth tuag at wersi dechreuwyr i roi'r cyfle i fyfyrwyr brofi'r gamp rydym yn ei charu.
Rydym eisiau annog pob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor i ymaelodi â'r clwb; anfonwch neges atom ar Facebook neu Instagram neu dewch draw i Rascals ar nos Fercher i gwrdd â ni.
Cariad at eira xxx