Band Pres Prifysgol Bangor yw band pres y brifysgol, sy'n cynnwys ac yn cael ei arwain gan fyfyrwyr. Rydym yn croesawu offerynwyr pres ac offerynwyr taro o bob cefndir cerddorol, adran a gallu. Rydym yn perfformio repertoire amrywiol syโn cynnwys emynau ac ymdeithganau pres traddodiadol a threfniadau o ddarnau cerddorol i fandiau mawr a chaneuon pop! Byddwn yn cael sawl cyfle i berfformio bob blwyddyn, gan gynnwys bysgio/canu carolau o gwmpas gogledd Cymru, cyngherddau yn y brifysgol a chystadlu yn Unibrass, cystadleuaeth genedlaethol i fandiau pres prifysgol.
Fel cymdeithas rydym yn cynnal nifer helaeth o nosweithiau cymdeithasol syโn amrywio o fynd i'r dafarn yn dilyn ymarferion i nosweithiau ffilm.