Yn wreiddiol o Coventry yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, symudais i Ogledd Cymru yn 2018 - felly dwi'n gwybod sut brofiad yw llywio bywyd i rywle newydd!

Rwy’n angerddol am gyllid ac addysg gynaliadwy, ar ôl gweithio mewn rolau cyfrifydda amrywiol ochr yn ochr â’m hastudiaethau fy hun dros y deng mlynedd diwethaf, cyn dod o hyd i fy niche yn Undeb Bangor. Yn fy amser hamdden rwy'n mwynhau chwarae gemau, mynd am dro gyda fy nghi ar y traeth a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd yn y gegin. Dw i’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, felly dwi’n croesawu unrhyw gyfle i ymarfer.

Cysylltwch â mi os oes gennych unrhyw ymholiadau cyllid yn ymwneud â’ch clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli neu weithgareddau Codi a Rhoi, neu os oes angen unrhyw help arnoch yn y Ganolfan Myfyrwyr pan fyddaf o gwmpas. Byddaf bob amser yn hapus i helpu!